Tudalen:Cymru fu.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gellir hela y Twrch Trwyth. Anweddus ynddo ef fyddai gadael ei deyrnas, ac yma ni ddaw efe byth."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Nis gellir hela y Twrch Trwyth heb fab Alun Dyfed. Medrus yw efe yn gollwng y cŵn."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Nis gellir hela y Twrch Trwyth oni cheir Aned ac Athlem. Cyflymed ydynt hwy a'r awel wynt, ac nis gollyngwyd hwynt erioed ar unrhyw fwystfil a'r nis lladdasant."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Arthur, a'i gymdeithion i hela y Twrch Trwyth. Gŵr nerthol yw efe, ac ni ddaw i hela erot ti, ac nis gelli dithau ei dreisio ef."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er, &c. Nis gellir hela y Twrch Trwyth oni cheir Bwlch a Cyfwlch [a Sefwlch], ŵyrion y Cleddyf Difwlch. Eu tair tarian ymddysgleiriant; eu tair gwaewffon ydynt awchus a miniog; a'u tri chleddyf ydynt rwygwyr ar- chollion — Glas, Glessig, a Glersag. Eu tri ci — Call, Cuall, a Cafall. Eu tri march — Hwyrdyddwg, Drwgdyddwg, a Llwyrdyddwg. Eu tair gwraig — Och, Garam, a Diaspad. Eu tri ŵyr — Lluched, Fyned, ac Eisiwed. Eu tair merch — Drwg, Gwaeth, a Gwaethaf oll. Eu tair llawforwyn — Eheubryd ferch Cyfwlch, Garasgwrn ferch Nerth, a Gwaeddu ferch Cynfelyn. Y tri ŵyr hyn a ganent eu cyrn, a'r lleill a floeddient, nes y credai pawb fod y nef yn' disgyn i'r ddaear."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Cleddyf Gwrnach Gawr. Nis gellir lladd y Twrch ond â'r cleddyf hwn. O'i fodd ni rydd efe ef i ti,' ac o'i anfodd nis gelli dithau ei gymeryd. " "Hawdd y gallaf hyny."

"Ti a gyfarfyddi âg anhawsderau a nosweithiau blinion yn ceisio y pethau hyn; ac os na byddi llwyddianus i'w cael, ni chei chwaith fy merch."

"Meirch a marchogion, a'r holl bethau hyn, a gaf gan fy nghyfathrachwr Arthur; a mi a enillaf dy ferch, a thithau a golli dy fywyd."

"Dos rhagot. Ni byddi ddyledus am fwyd na dillad i'm merch tra y byddych yn ceisio y pethau hyn; ac wedi it' orfod dy holl anhawsderau, y derbyni fy merch yn wraig."

Teithiasant hyd hwyr y dydd hwnw, pryd y gwelent y castell mwyaf yn y byd. a gwelent ddyn du anferth