Tudalen:Cymru fu.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Atebodd Bedwyr i'r dysgrifiad, agorwyd y porth, a gollyngwyd ef i mewn. A dywedodd Cai, "Medrus iawn yw Bedwyr, eithr nid yn y gelf hon."

Ac yn mhlith y gwŷr oddiallan yr oedd petrusder oherwydd myned Cai a Bedwyr i mewn. Ac aeth y gŵr ieuanc, unig fab Cystenin y bugail, yntau hefyd i mewn. Parodd i'w gydymdeithion lynu yn agos ato tra yr elynt trwy y tri chadlys, nes y daethant i ganol y castell. A'i gydymdeithion a ddywedasant wrtho, " Ti a wnaethost hyn; goreu gŵr ydwyt;" a galwyd ef o hyny allan, "Goreu ab Cystenyn." Yna ymwasgarasant pob un i'w lety, modd y lladdent eu lletywyr yn ddiarwybod i'r Cawr.

Erbyn hyn yr oedd y cleddyf wedi ei gaboli, a dodes Cai ef yn llaw Gwrnach er mewn gwybod a oedd y gwaith wrth ei fodd; ac ebai yntau, "Da yw y gwaith, a boddlon ydwyf." Ebai Cai, "Y wain a rydodd dy gleddyf; moes efe i mi fel y tynwyf ymaith ei ystlysau pren, ac y rhoddaf rai newyddion yn eu lle." Ac efe a gymerth y wain yn un llaw, a'r cleddyf yn y llall, gan sefyll gyferbyn a'r Cawr, fel pe buasai yn rhoi y cledd yn y wain, eithr yn lle hyny tarawodd y Cawr yn ei ben, ac a'i torodd ymaith âg un ergyd. Yna anrheithiasant y castell, ac ysbeiliasant y dâ a'r tlysau oeddynt yno; ac yn mhen blwyddyn i'r diwrnod, daethant i Lys Arthur, a chanddynt gleddyf Gwrnach Gawr.

Dywedasant wrth Arthur y modd y darfu iddynt, ac ebai yntau, " Pa beth sydd iawnaf ei geisio gyntaf o'r rhyfeddolion hyn?" Ebynt hwythau, " iawnaf ceisio Mabon ab Modron, ac ni cheir ef oni cheir yn gyntaf Eidoel ab Aer, ei gyfathrachwr." Yna cychwynodd Arthur a rhyfelwyr Ynys Prydain i chwilio am Eidoel, a daethant hyd at Gastell Glifi, lle yr oedd efe yn ngarchar. Safai Glifi ar ben y gaer, a dywedodd, " Arthur, beth sydd a fynot â mi? gau nad oes dim o fewn y gaer, ac nad oes genyf na llawenydd na phleser, na gwenith na cheirch. Gan hyny na wna imi niwaid." Ebai Arthur, "Nid i'th niweidio y daethum, eithr i geisio carcharor sydd genyt." "Rhoddaf it' y carcharor, er nas bwriadaswn ei roddi i ungwr, a chyda hyny y derbyni genyf bob cymhorth a chroesaw."

A gwŷr Arthur a ddywedasant wrtho, " Arglwydd, dychwel di adref, nid gweddus it' ddylin dy luoedd ar ymgyrchiadau bychain o'r fath yma." Ebai Ai'thur, " Gwrhyr Gwastawt Ieithoedd, i ti y perthyn y neges hon, canys deallus ydwyt yn mhob iaith, a chyfiaith ydwyt a'r