Tudalen:Cymru fu.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anifeiliaid a'r adar. Dylit tithau, Eidoel, fyned gyda'm gwŷr i geisio dy gefnder. Ac am danoch chwi, Cai a Bedwyr, pa beth bynag a gymeroch mewn llaw, y mae ffydd genyf y llwyddwch.: llwyddwch hefyd yn y neges hon."

Yna teithiasant hyd at Fwyalchen Cilgwri, ac ebai Gwrhyr, gan ei thyngedu yn enw y nefoedd, "Dywed i ni, os gwyddost rywbeth am Fabon ab Modron, a gymerwyd oddirhwng ei fam a'r pared pan yn deirnos oed." Ebai'r Fwyalchen, "Pan ddaethym i'r fan hon gyntaf, aderyn ieuanc oeddwn, ac eingion gof oedd yn sefyll ger- llaw. Ac er y dydd hwnw ni bu traul yn y byd ar ni, ond fy ngwaith i yn rhwbio fy mhig arni bob nos; ac yn awr nid oes swm gymaint a chneuen yn aros o honi; eto, dialedd Duw arnaf, os clywais i erioed am y gŵr y gofynwch. Eithr mi a wnaf yr hyn sydd deg a chyfìawn i genadau Arthur — arweiniaf chwi at genedlaeth sydd yn hŷn na myfì."

Yna daethant at y lle yr oedd Carw Rhedynfre, ac ebynt wrtho, "Cenadau oddiwrth Arthur ydym atat ti, canys clywsom nad oes greadur hŷn na thydi yn y byd. Dywed os gwyddost rywbeth am Fabon ab Modron, yr hwn a gymerwyd oddiwrth ei fam yn deirnos oed." Ebai y Carw, "Pan ddaethym i'r fangre yma gyntaf, gwastattir moel ydoedd, heb ddim coed, namyn un gollen dderwen, yr hon a dyfodd yn bren mawr can' cainc. A bu y dderwen farw, ac erbyn heddyw nid oes yn aros o honi ond ei boncyff gwywedig; eithr ni chly wais erioed am y gŵr yr ymholwch. ond byddaf arweinydd i genadau Arthur at greadur a grëwyd o'm blaen i."

A daethant at y lle yr oedd Dallhuau Cwm Cawlwyd. " Ddallhuan Cwm Cawlwyd, wele genadau oddiwrth Arthur yn ymofyn os gwyddost ti rywbeth am Fabon ab Modron a gymerwyd yn deirnos oed oddiar ei fam?" Pe gwyddwn, dywedwn. Pan gyntaf y daethym i'r lle hwn, glyn coediog ydoedd; a dynion a ddaethant ac a ddiwreiddiasant y coed hyny, a thyfodd ihai eraill yn eu lle; a'r tô presenol o goed ydynt y trydydd cnwd er pan y daethym i i'r lle hwn. Onid yw fy esgyll yn gonynau diffrwyth? Ac o'r dydd hwnw hyd yn awr ni chlywais erioed am y gŵr y gofynwch. Pa fodd hynag, byddaf arweinydd i genadau Arthur at y creadur hynaf, a'r un a deithiodd fwyaf yn y byd oll."

Yna daethant at Eryr Gwernabwy, ac ebai Gwrhyr, "Yn genadau oddiwrth Arthur y daethom atat i'th holi