Tudalen:Cymru fu.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cai yn llaw Arthur, ac yna canodd Arthur yr Englyn hwn: —

Cynllynfan a orug Cai
O farf Dillus fab Erai,
Pe iach dy angeu fyddai.

O herwydd hyn sorodd Cai, ac o'r braidd y gallodd rhyfelwyr yr ynys gadw heddwch rhyngddo ef ac Arthur. Ac o hyny allan nid ymyrodd Cai yn mrwydrau Arthur.

Ebai Arthur, "Pa un o'r rhyfeddolion hyn fyddai iawnaf ei geisio nesaf?" "lawnaf fyddai ceisio Drudwyn cenaw Greid ab Eri."

Ychydig cyn hyn, dyweddiwyd Creiddylad ferch Lludd Llaw Ereint gyda Gwythyr ab Greidawl. A chyn eu priodi, daeth Gwyn ab Nudd ac a'i dygodd hi ymaith trwy orthrech; a chynullodd Gwythyr ab Greidawl ei lu i ryfel yn erbyn ab Nudd. Eithr Gwyn a drechodd. ac a wnaeth yn garcharorion Greid ab Eri, a Glineu ab Taran, a Gwrgwsg Ledlwm, a Dyfnarth ei fab; a daliodd hefyd Pen ab Nethawg, a Nwython, a Cyledyr Wyllt ei fab. Lladdasant Nwython, a gorfodasant Cyledyr i fwyta calon ei dad, ac oherwydd hyny yr aeth efe yn wyllt. Pan hysbyswyd hyn i Arthur, efe a aeth i'r Gogledd, ac a wysiodd Gwyn ger ei fron, a rhyddhaodd y pendefigion oedd yn ngharchar, a heddychodd Gwyn ab Nudd a Gwythyr ab Greidawl. Dyma yr heddwch a wnaed rhyngddynt: — Fod y forwyn i aros yn nhŷ ei thad heb fantais i'r naill na'r llall, a bod Gwyn a Gwythyr i ymladd am dani bob dydd Calanmai hyd ddydd brawd, a'r hwn fuasai fuddugwr y pryd hwnw oedd i'w chael hi.

Wedi heddychu y ddau benaeth hyn y cafodd Arthur Mygdwn, march Gweddw, a chynllyfan Cwrs Nant Ewin.

Yna aeth Arthur i Lydaw, a chydag ef Mabon ab Mellt, a Gware Gwallt Euryn, i geisio dau gi Glythmyr Ledewig. Ac wedi iddo gael y rhai hyn, efe a aeth i orllrwinbarth Iwerddon, ac aeth Odgar ab Aer brenin yr Iwerddon gydag ef. Oddiyno aeth i'r Gogledd, a daliodd Gyledyr Wylli. Yna aeth ar ol Ysgithyrwyn Penbaedd, a chydag ef yr oedd Mabon ab Mellt, a chanddo ddau gi Glythmyr Ledewig yn ei law, a Drudwyn cenaw Greid ab Eri. Aeth Arthur i'r helfa ei hun, gan dywys Cafall ei gi. Caw, o Ogledd Prydain, a farchogai Llamren, caseg Arthur, ac efe oedd y cyntaf yn yr ymgyrch. A Chaw a gymerth fwyall yn ei law, ac mewn dull. beiddgar