Tudalen:Cymru fu.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarfyddodd y baedd, a holltodd ei ben yn ddau haner. Yn awr ni laddwyd y baedd gan y cŵn a enwasai Yspadden, eithr gan Cafall, ci Arthur.

Wedi lladd Yscithyrwyn Penbaedd, Arthur a'i luoedd a ddychwelasant i'r Grelli Wig, yn Nghernyw; ac oddiyno anfonodd Menw ab Teirgwaedd, i edrych a oedd y tlysau rhwng dwy glust Twrch Trwyth, gan mai ofer fuasai ymosod arno oni buasai y tlysau ganddo. Nid oedd amheuaeth o barth ei breswylfan, gan ei fod yn anrheithio trydedd ran Iwerddon. Aeth Menaw tuag ato, a chafodd efyn Esgair Oerfel, Iwerddon. Yna ymrithiodd Menw yn aderyn, a disgynodd ar ben ei ffau, gan amcanu cipio y tlysau oddiarno felly, ac ni chipiodd efe ddim namyn un o'i wrych. Cyfododd y Baedd yn ddigllawn, ac ymysgydwodd nes y syrthiodd peth o'i lafoer gwenwynllyd ar Ellenw, ac ni bu efe byth yn iach o'r awr hono allan.

Wedi hyn anfonodd Arthur genadau at Odgar ab Aer, brenin yr Iwerddon, yn gofyn pair Diwrnach Wyddel, ei faer. Eithr Diwrnach a atebodd, "Y nef a ŵyr pe gwnaethai rhyw les iddo edrych ar y pair, nis cawsai efe hyny."A chenadau Arthur a ddychwelasant o'r Iwerddon gyda'r nacâd hwn. Cychwynodd Arthur gydag ychydig o'i nifer yn ei long Prydwen tua'r Iwerddon, a daethant at dý Diwmach Wyddel; a lluoedd Odgar a welsant eu nerth hwynt. Wedi iddynt fwyta ac yfed eu digon, archodd Arthur y Pair. Atebodd Diwrnach, "Pe'i rhoddasem i rywun, rhoddaswn hi ar air Odgar brenin yr Iwerddon.

Wedi clywed y nacâd hwn, cyfododd Bedwyr, a gafaelodd yn y Pair, gan ei ddodi ar gefn Hygwyd, gwas Arthur, yr hwn oedd frawd o du mam i Cacmwri, gwas arall i Arthur. Ei swydd ef oedd dwyn pair Arthur, a rhoddi tân o tani. A Llenlleawg Wyddel a afaelodd yn Caledfwlch ac a'i chwifìodd. A lladdasant Diwrnach a'i gyfeillion. Yna daeth y Gwyddelod i ymladd â hwynt. Wedi gorchfygu y rhai hyn, aethant tua'r llong gan gymeryd gyda hwynt y Pair- yn llawn o arian Gwyddelig. Tiriodd yn nhŷ Llwydden ab Celcoed yn Mhorth Cerddin, Dyfed; ac yno y mae mesur y pair.

Yno cynullodd Arthur holl fìlwyr tair ynys Prydain a'u tair rhag-ynys, a holl filwyr Ffrainc, a Llydaw, a Normandi, a Gwlad yr Haf, a'r holl wŷr dethol, a'r marchogion clodfawr. A chyda y rhai hyn yr aeth efe i'r Iwerddon, lle yr oedd ofn ac arswyd mawr rhagddo. A phan laniodd efe yn y wlad, daeth seintiau yr Iwerddon