Tudalen:Cymru fu.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arthur wŷr i'w hela; Eri a Drachmyr yn arwain Drutwyn cenaw Greid ab Eri; a Gwarthegyd ab Caw mewn cŵt arall yn arwain dau gi Glythmyr Ledewig; a Bedwy, yn arwain Cafall, ci Arthur; a'r hoil filwyr wedi eu trefnu o gylch y Nyfer. A daeth tri mab Cleddyf Difwlch, gwŷr a enillasant glod mawr wrth ladd Ysgithyrwyn Penbaedd. O Glyn Nyfer aethaut i Glyn Cerwyn.

Yno y gwrthsafodd Twrch Trwyth, ac y lladdodd bedwar o bencampwyr Arthur, sef Gwarthegyd ab Caw, a Tarawc o Allt Clwyd, a Rheidwn ab Eli Adfer, ac Iscofan Hael. Ac wedi iddo ladd y gwŷr hyn, efe a wrthsafodd eilwaith yn yr un lle, ac a laddodd Gwydre ab Arthur, a Garselit Wyddel, a Glew ab Ysgawd, ac Iscawyn ab Fanod, ac anafwyd y Baedd yno hefyd.

A thranoeth yn y boreu cyn dydd, rhai o'r gwŷr a ymosodasant arno; ac efe a laddodd Huandaw, a Goginwr, a Penpingyon, tri o weision Glewlwyd Gafaelfawr, fel nad oedd ganddo, Duw a'i gŵyr, unrhyw ddyn a wnai gymwynas iddo, oddigerth Llaesgefyn. Ac heblaw y rhai hyn, efe a laddodd luaws o wŷr y wlad, a Gwlydyn Saer, prif saer Arthur.

Ac Arthur a'i goddiweddodd yn Pelymuawc, ac yno y lladdodd efe Madawc ab Teithyon, a Gwyn ab Tringad ab Nefed, ac Eiryon Penllorau. Oddiyno aeth y Twrch i Aberteifi, lle y gwrthsafodd efe drachefn, ac y lladdodd Cyflas ab Cynan, a Gwilhennin brenin Ffrainc. Óddiyno yr aeth efe i Glyn Ystu, a chollwyd ef yno gan y gwŷr a'r cŵn.

Gwysiodd Arthur Gwyn ab Nudd, a gofynodd iddo os gwyddai rywbeth am y Twrch Trwyth. Ac efe a atebodd nas gwyddai.

A helwyr aethant i hela y genfaint mor bell a Dyffryn Llychwr, a Grugyn Gwrych Ereint a Llwydawg Gofyngad a'u lladdasant oll oddieithr un gŵr. A daeth Arthur a'i luoedd i'r fan yr oedd Grugyn a Llwydawg. Gosododd arnynt ei holl gŵn, a chan faint y swn a'r cyfarth, dygwyd y Twrch i'w cymhorth. Ac o'r amser y croesodd efe Fôr Iwerddon, ni chawsai Arthur drem arno hyd y pryd hwnw, a rhoddodd wŷr a chŵn arno nes ei orfodi i ffoi, ac y daeth i Fynydd Amanaw. A lladdwyd yno un o'r moch ieuainc. Yna ymosodasant arno fywyd am fywyd, a lladdwyd Twrch Lawin, a lladdwyd mochyn arall hefyd, Gwys oedd ei enw. Ar ol hyn aeth y Twrch i Ddyffryn Amanaw, a lladdwyd yno Banw a Benwig. O'i holl berchyll nid oedd ganddo yn fyw erbyn hyn namyn Grugyn Gwallt Ereiut, a Llwydawg Gofyngad.