Tudalen:Cymru fu.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'i febyd hyd at henaint; minau a'i hadwaen ef yn awr i'm tyb; nid chwi, Meurig, ydyw hwnw; Ha! Ha! ha! he! he! nage, nage; wrth hyny dau nage a wna un 'ie: byddwch wych, Meurig, oni boch gwrda. Ffarwel i'th fyw.

Sion Mawddwy.

ATEB MEURIG DAFYDD

Derbyiwch hyn yn ateb i'ch llythyr, Sion Mawddwy. Rhyfedd iawn yw hefyd genyf inau achwyn o honoch i mi feio ar eich cerdd: ni feiais i fwy na hyn arni, sef beio ar eich celfyddyd a wnaethym; sef achos ei bod ar Ddosbarth Gwynedd; gwell fyddai ei galw Dosbarth Dafydd ab Ed- mwnd. Beirdd Gwynedd a Deheubarth a'u derbyniant: ond ef a Iwyrymwrthodwyd â hi yn Morganwg. Beirdd gwlad Forgan a gyneiliant yr hen ddosbarth, fel y mae yn llyfrau yr hen ddysgodron godidawg; ac nid canu ffol a ymorchestu, fal chwareu plant bach ar eiriau heb air hy chan yn debyg i synwyr. Cymered beirdd Dafydd ab Edmwnd eu celfyddyd atynt i'w cartref, a balchied pob un ynddi, a chanent y gadwen fer, a gorchest y beirdd, yn awenyddgar synwyrawl, yn marn pencerdd, os medrant; ac yna beirdd Morganwg ni fynaut o hyny allan fod yn feirdd wrth fraint a defawd yr hen Brydeiniaid; ond byddant feirdd wrth fraiut a defawd Dafydd ab Edmwnd. Y chwi, Mr. Mawddwy, yn anad neb o feirdd Morganwg, a hoffasoch wagsain yn fwy na synwyr; gwnaed eich cywreinrwydd i chwi wynfyd calon, a llawenydd i chwi o'ch clod; nid oes fawr, ar a wn i, a genfigena wrthych; ni allaf lai fy hun na thosturio wrthych. Dyben cywreindeb mesur a chynghanedd oedd cynal y Gymraeg, a'i barddoneg, rhag ei cholli; yr hyn beth ni wna lawer o fesurau Dafydd ab Edmwnd, oni ellir cynal iaith a mydr drwy fwrw allan bob synwyr o'i hansawdd. Chwi a soniasoch am iawn ganu, iawn farnu, ac iawn ddysgu; gorchest yn wir yw pob un o'r tri; ond nid aml yr arferwch un o honynt. Dylai cerdd fod yn aml-bar iaith, yn gyfoethawg synwyr, ac yn gywrain fydraeth. Cadwch at hyn, Sion Mawddwy, dilys y byddwch wrth fraint a defawd hen Fryteiniaid; ac nid heb hyny. Gwir yw i mi gael benthyg eich pum' llyfr; ac y mae eu dysgeidiaeth yn fy mhen, pe bae hyny les yn y byd i mi: ond da yw gwybod ffolineb er amlygu callineb, yr hyn a ddengys ôl traed doethineb. Mae genych lawer iawn o sen gelwyddawg yn eich llythyr; ni fyddaf waeth o hyn. Mi adwaenwn Sion y Tincer Fargam cyn iddo briodi etifeddes Mawddwy, a chymeryd