Tudalen:Cymru fu.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IDWAL NANT CLWYD

(Oddiar Lafar Gwlad)

Yr oedd rhieni Idwal yn amaethwyr cyfrifol a pharchus, ac iddynt luaws o blant, yr oll o ba rai oddigerth ein harwr a fuont feirw yn eu mabandod. Idwal oedd yr ieuengaf, ac fel rhosyn olaf y gwanwyn, yr oedd y deifwynt dinystriol wedi myned heibio'r teulu, a chyflawni ei alanastra cyn iddo ef wneud ei ymddangosiad. Ni raid hysbysu, gan hyny, ei fod yn anwyl iawn gan ei rieni, gan mai trwyddo ef y disgwylient gadw anfarwoldeb eu natur yn y byd hwn. Nid ydyw dyn byth yn marw yn gysurus, os nad all adael rhywun ar ol i drefnu ei angladd, i eneinio ei fedd â dagrau, ac i'w drwsio â blodau; ac oddiar pwy y gellir disgwyl y cymwynasau hyn, os nad oddiar law plentyn! Y mae dyn yn caru credu y bydd tipyn o alaru ar ei ol wedi iddo symud o fyd o amser; a phwy o'r hil ddynol sydd yn ddigon glan oddiwrth y dyb ddiniwaid hon i daflu careg at y llall?

Un diwrnod aeth Idwal allan i hela yn nghymdeithas cyfaill cywir-galon, mab y fferm agosaf at Nant Clwyd. Nid oedd cariad Jonathan a Dafydd yn rhagori ar serch y ddau hyn at eu gilydd. Yr oedd y ddau yn cyd-chwareu- yn cyd-dyfu, yn cyd-garu, a phriodwyd hwy yn yr un eglwys, gan yr un offeiriad, ar yr un dydd ac awr, gyda dwy chwaer. Pa fodd bynag, wedi bod o honynt yn hela am amryw oriau, daethant hyd at Iwyn o frysglwyni, a choed caeadfrig, lle yr ymwahanasant oddiwrth eu gilydd, ac er pob ymdrech methodd ei gyfaill â dyfod o hyd i Idwal drachefn. Ni chauwyd amrant yn Nant Clwyd y noson hono— pryderu, ofni, gobeithio y goreu, ac ofni y gwaethaf, yr oedd pob mynwes. Dranoeth y bore aethpwyd i chwilio o ddifrif am y colledig yn mhob cilfach a lloches oddeutu y fan ei collwyd, a bu pob ymdrech yn ofer. Er mor gynhes oedd cyfeillgarwch y ddau heliwr, ni bu cenfigen heb gynllunio brad yn erbyn cyfaill Idwal, ond yr oedd ei ddull gonest ac wyneb-agored yn ateb pob holiadau, yn lladd pob anmheuon, ac yn peri i genfigen yfed ei gwaed ei hun. Chwiliwyd yn fanwl am Idwal oddeutu y llwyn y collwyd ef; ac yr oedd yr ymchwiliad mor wirioneddol a dwys, nes yr edrychai yr holl deulu fel yfydion yn y fan. Clustfeinient ar y gwynt, eithr ni ddygai hwnw ar ei adenydd yr un lef wan oddiwrth Idwal; a rhugl-drystiad y dail crynedig yn y twyni oeddynt