Tudalen:Cymru fu.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr unig atebion a dderbynient i'w holiadau enaid-gynhyrfiol. Wedi hir edrych o'u deutu, gwelent gylch Tylwyt Teg yn ymyl y fan; a phenderfynwyd ar unwaith iddo fod mor anffodus a chael ei swyno gan beroriaeth y bodau bychain dyeithr hyny i'w canlyn i wlad hud a lledrith. Yn raddol diflanodd pob gobaith am weled Idwal o Nant Clwyd yn nhir y rhai byw mwyach; ond cyn i hyny gael ei Iwyr ddwyn oddiamgylch, cymerodd dygwyddiad le a'i hail ddygodd mewn dull effeithiol iawn gerbron meddyliau ei deulu. Yn mhen tua phedwar mis wedi iddynt ei golli, ganwyd mab iddo, yr hwn ydoedd wir ddelw a phictiwr ei dad. Tyfodd y plentyn hwn i oedran gŵr, a llanwai le ei dad yn serchiadau ei daid a'i nain. Ymgysylltodd mewn glân briodas â merch ieuanc brydferth o'r ardal, ond nid oedd hawddgarwch a haelioni yn mhlith rhinweddau ei thylwyth. Ni welwyd y ddau nodwedd hyn erioed ar wahân — gefeilliaid cariad ydynt, a haelioni ydyw yr hynaf o'r ddau. Pwy glybu erioed am gybydd hawddgar? Cybyddion oeddynt deulu y ferch ieuanc hon, a phob tynerwch a chydymdeimlad wedi eu halltudio o'u calonau; ac fel y mae gwaetha'r modd, dyna'r anrasau a ddysgent gyntaf i'w phlant. Un o'r nodweddiad yna ydoedd merch-yn-nghyfraith y colledig Idwal. Pa fodd bynag, yn nhreigliad amser bu tad a mam a gwraig Idwal feirw.

Yr oedd haner can' mlynedd o lawenydd a thristwch, o ing a gorfoledd, wedi myned tros ben plant dynion er pan ddiflanodd ein harwr mor gyfrin a dirgel — nid oedd un o honynt yn ddigon uchel i allu osgoi y cwpan chwerw, nac un yn rhy isel i allu cyfranogi weithiau o'r gwpan felus, pan ar brydnawn oerllwm yn mis Chwefror y gwelai teulu Nant Clwyd hen ŵr brigwyn, teneu, tal, yn dynesu at y tŷ. Agwedd cardotyn oedd arno, a rhaid ei fod yn ddyeithr yn y fangre hono, onidê ni chyfeiriasai byth mo'i gamrau at ddrws digardod Nant Clwyd. Yr oedd ei gam yn fyr, a'i wisg yn garpiog; a'r morwynion a'r feistres, wrth sylwi arno yn dyfod a wawdient "yr hen Wyddel." Synasant ychydig wrth weled gŵr ar y dullwedd hwnw yn cerdded i mewn heb guro y drws nac unrhyw rodres, ac yn gofyn pa le yr oedd ei dad, a'i fam, a'i wraig. Gorchymynodd y wraig iddo fyned allan oddiyno mor gynted fyth ag y gallai cyn i'w gŵr ddyfod adref, a rhoddi help iddo gyda blaen ei fotasen. Edrychai yr hen ŵr yntau erbyn hyn yn lled hurt a ffwdanllyd! yr oedd pob peth oddeutu y tŷ wedi cyfnewid — lle yr hen gadair ddwyfraich