Tudalen:Cymru fu.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dderw fawr yn cael ei lenwi gan esmwythfainc, a'r dysglau pewter (looking-glasses yr hen bobl) wedi myned i'r wadd a'r ystlumod, &c., ond eto yr oedd digon o bethau amgylchiadol yn aros yr un i sicrhau meddwl yr hen ŵr mae Nant Clwyd ydoedd Nant Clwyd. Traethodd ei hanes: dywedai iddo y dydd blaenorol fyned allan i hela, ac i drymgwsg rhyfedd syrthio arno yn mrig yr hwyr a barodd iddo dreulio y noson hono yn y coed. "Mi a glywais fy ngŵr yn dweyd fod y gair i'w dad ef fyned ar goll wrth hela, ond credai pawb mai ei ladd a gafodd. "A gwylltiodd y wraig yn enbyd, a pharodd iddo eilwaith fyned allan: cynhyrfodd nwydau yr hen ŵr yntau hefyd, dywedai mai ei eiddo ef oedd y tŷ, ac y byddai iddo yn ddiymaros weithredu ar ei hawl. Yna ymwelodd â'r fferm agosaf, anedd ei hen gyfaill, a gwelodd yno hen ŵr methiantus yn eistedd yn fyfyrgar wrth ochr y tân. Ymddyddanent am ieuenctyd a bore oes, ac ymddangosai y cyfan fel golygfa hafaidd yn y chwareudy. Adnabyddasant y naill y llall, disgynasant ar yddfau eu gilydd gan ymgofleidio, a'r dagrau gloewon yn dylifo ar hyd eu gruddiau rhychedig. Deallodd Idwal ei wir sefyllfa. Yr oedd y gymdeithas mor gynhes cydrhyngddynt, fel na ddychwelodd ein harwr i'w dŷ i Nant Clwyd. Darparwyd gwledd ar frys, a gwahoddwyd holl hen bobl y gymydog- aeth iddi, a threuliwyd y noson yn ddyddan iawn. Ac wedi siarad ac adgofio nes y daeth cwsg yn fwy dmnunol nac ymddyddan, aeth y ddau hen ŵr gyda'u gilydd i gysgu yn yr un gwely. Bore dranoeth, wrth eu gweled cyhyd yn codi, aed i ymofyn am danynt, a chafwyd y ddau WEDI MARW.

Tybiai y werin bobl mai yspryd Idwal ydoedd yr hen ŵr dyeithr wedi dyfod i ymofyn yspryd ei gydymaith; ac i'r cyfaill mor fuan ag y clywodd y neges ofyn caniatâd Llywodraethwr yr ysprydion i fyned ymaith yn uniongyrchol a dirybudd yn nghanol nos. Pa foddbynag, hyn sydd sicr, disgynodd melldith ar deulu Nant Clwyd hyd y pumed âch — pob peth a gymerent mewn llaw anffawd a methiant a fyddai, a gwerthwyd y lle naw gwaith cyn i'r felldith hon gael ei symud.

Cymered y cyfeillion dwrngauad yr amnaid hon o law chwedl: — Nad oes wynfyd i'r sawl a ddirmygont y tlawd, ac na fu bendith erioed ar gybydd-dod.