Tudalen:Cymru fu.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIODI A CHLADDU YN YR HEN AMSER.

Wedi i'r pâr ieuanc gydweled mai "nid da bod dyn eî hunan," un o'r pethau cyntaf wrth ragdrefnu y briodas ydoedd dewis "Gwahoddwr". Swydd y gŵr hwn oedd myned at y cymydogion i'w hysbysu yn nghylch y briodas, yn nghydâ'r dydd a'r lle y bwriedid ei chynal. Yr oedd llawer o deithi prinion yn anhebgorol i wneud "Gwahoddwr" da. Yr oedd yn rhaid iddo fod yn barod a ffraeth ei atebion, yn un dawnus ei ymadrodd wrth ddweyd ei neges, ac yn gyfaill cywir a diragrith i'r pâr ieuanc, rhag na byddai iddo eu henllibio yn lle eu hamddiffyn yn ngŵydd y cymydogion. Wedi penderfynu ar y gŵr cymhwysaf i'r swydd, ac iddo yntau gydsynio, efe a gychwynai ar farch yn y bore i'w daith. Os byddai y gwahoddedigion ychydig uwchlaw y cyffredin, traddodai ei genadwri trwy lythyr; eithr os tlodion ac anllythrenog fyddent, efe a draethai ei len ar dafod leferydd, ac fynychaf ar gân. Yn yr "Hynafion Cymreig", ceir siampl o


GAN Y GWAHODDWR.

Dydd da i chwi, bobl, o'r hynaf i'r baban,
Mae Stephan wahoddwr a chwi am ymddiddan,
Gyfeillion da mwynaidd, os felly'ch dymuniad,
Cewch genyf fy neges yn gynhes ar ganiad.
Y mae rhyw greadur trwy'r byd yn grwydredig,
Nis gwn i yn hollol ai glanwedd ai hyllig
Ag sydd i laweroedd yn gwneuthur doluriad
Ar bawb yn goncwerwr, a'i enw yw CARIAD.
Yr ifanc yn awchus wna daro fynycha',
A'i saeth trwy ei asen mewn modd truenusa';
Ond weithiau a'i fwa fe ddwg yn o fuan
O dan ei lywodraeth y rhai canol oedran.
Weithiau mae'n taro yn lled annaturiol,
Nes byddantyn babwyr yn wir yn hen bobl,
Mi glywais am rywun a gas yn aflawen
Y bendro'n ei wegil yn ol pedwar ugain.
A thyma'r creadur trwy'r byd wrth garwyro
A d'rawodd y ddeu-ddyn wyf trostynt yn teithio,
I hel eich cynorthwy a'ch nodded i'w nerthu,
Yn ol a gewch chwithau pan ddel hwn i'ch brathu.
Yr wyf yn atolwg ar bob un o'r teulu
I gofio y neges wyf wedi fynegu,
Rhag i'r gwr ifanc a'i wraig y pryd hyny,
Os na chan' hwy ddigon, ddweyd mai fi fu'n diogi.