Tudalen:Cymru fu.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Chwi gewch yno croeso,rwy'n gybod o'r hawsaf,
A bara chaws ddigon, onide mi a ddigiaf,
Ceiff pawb ei ewyllys, dybacco a phibelli,
A diod hoff ryfedd 'rwyf wedi ei phrofi."

Ar brydiau byddai y Gwahoddwr yn cyfarfod â gwrthwynebiadau. Dywedid wrtho nad oedd y yr ieuanc wedi ymddwyn mor gymwynasgar a chymydogol ag i deilyngu unrhyw garedigrwydd oddiar eu llaw; neu fod eu teuluoedd yn euog o weithredoedd anngharedig. Yn ngwyneb hyn ei ddyledswydd yntau ydoedd gwrthbrofi'r cyhuddiad, neu gyfiawuhau yr ymddygiad, a'u hannog i beidio gadael i feiau bychain y mae dynolryw yn gyffredinol mor agored iddynt eu lluddias rhag cydymffurfio â hen ddefod anrhydeddus a ddisgynodd iddynt oddiwrth eu henafiaid doethion. Ond nid oedd y gwrthwynebwyr hyn ond eithriadau, a'r nifer luosocaf o'r cymydogion a falchient yn y cyfleusdra i roddi help llaw i bobl ieuainc yn dechreu

Oherwydd y gwahoddiadau hyn deuai y cyfeillion o ffordd bell i'r neithior yn llwythog gan anrhegion, megys dodrefn tŷ, arian, enllyn o bob math, &c. yr oedd y Gwahoddwr yn gweithredu fel ysgrifenydd i'r briodas. Rhoddai enwau yr oll oeddynt yn bresenol ar lawr, a'u hanrhegion gogyfer a hyny; y rhai oeddynt i gael eu haddalu, ar amgylchiad cyffelyb, os byddai galw am danynt. Gelwid yr hen ddefod hon "Pwrs a Gwregys," ar anrhegion yn "Dalu Pwyddion," ac oddiwrth hyn, mae yn debyg, y deilliodd y gair a ddefnyddir yn yr oes hon "Talu'r Pwyth." Fel hen ddefod gwlad gellid hawlio ad-daliad y Pwyddion trwy rym cyfraith, ond o ran gweddeidd-dra, anfynych y byddai neb yn defnyddio y moddion hyny i'w hadfeddianu.

Bore dydd y briodas ymgynullai nifer o gyfeillion y priodfab i'w dŷ ef, ac oddiyno elent i dŷ y ferch ieuanc. Ac er y byddai y briodferch a'i chyfeillion yn pryderus ddisgwyl am yr osgordd, er mwyn defod a gweddeidd-dra, ffugient eu han ewyllysgarwch iddi fyned i'r ystâd briodasol. Yna cyfeillion y priodfab a ddechreuent ei foli a thraethu ei ragoriaethau mewn prydyddiaeth ramantus a direol, a chanmol cymhwysder yr undeb bwriadedig; tra, ar y llaw arall, cyfeillion y ferch ieuanc a watwarent y priodfab, ac a ddirmygent y briodas. Ar ol y ffug-ymrysonfa hon, deuai y tad neu rhyw berthynas agos i'r briodferch yn mlaen, ac a'i cyflwynai hi i'r cwmni;