Tudalen:Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

angen cymryd camau pellach er mwyn annog lefelau uwch o gyfranogi.

Cynhaliwyd archwiliad sgiliau ymhlith staff Swyddfa Cymru ym mis Hydref 2009 ac mae’r canlyniadau’n rhoi sylfaen ar gyfer cynllunio hyfforddiant a chynllunio’r gweithlu. Bydd ein Cangen Adnoddau Dynol yn cynnal yr archwiliad hwn o allu ieithyddol ac yn ei ddiweddaru’n flynyddol.

Fel rhan o’n hadolygiad i wneud gwelliannau parhaus i’n trefniadau yn y dderbynfa, byddwn yn nodi pob achlysur y bydd aelod o’r cyhoedd yn ymweld â Swyddfa Cymru, neu’n cysylltu â ni ar brif rifau ffôn ein switsfwrdd, ac yn dymuno delio â materion drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn hefyd yn nodi p’un ai a fodlonwyd y gofynion hynny ai peidio.

Gwasanaethau Cyfieithu

Bydd ein hanghenion cyfieithu’n parhau i gael eu diwallu’n rhannol gan Wasanaeth Cyfieithu Gwasanaeth Llysoedd y Weinyddiaeth Cyfiawnder ac yn rhannol gan gontractwyr cyfieithu allanol. Byddwn yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn ôl yr angen.

Canllawiau i Staff

Byddwn yn tynnu sylw’r holl staff yn rheolaidd at y cynllun, a byddant yn derbyn arweiniad ynghylch goblygiadau’r cynllun ar eu gwaith ac ar unrhyw gamau y mae arnynt angen eu cymryd.

Amserlen

Mae llawer o’r ymrwymiadau a nodwyd yn y cynllun diwygiedig hwn eisoes wedi cael eu rhoi ar waith, wrth i ni barhau i gydymffurfio ag egwyddorion ein Cynllun Iaith Gymraeg gwreiddiol a gafodd ei gymeradwyo ar [dyddiad]. Byddwn yn rhoi’r Cynllun diwygiedig hwn ar waith yn ffurfiol ar ôl i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ei gymeradwyo. Mae’r Cynllun Gweithredu sydd ynghlwm yn Atodiad A yn dangos sut y bydd