Tudalen:Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymru. Felly, nid yw Swyddfa Cymru yn darparu gwasanaethau yn uniongyrchol i’r cyhoedd yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Swyddfa Cymru’n gyfrifol am gynrychioli buddiannau Cymru mewn deddfwriaeth sylfaenol a wneir gan Senedd y DU ac am wthio Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru drwy ddau Dŷ’r Senedd.

Mae Swyddfa Cymru hefyd yn gyfrifol am hyrwyddo a hwyluso’r setliad datganoli ar gyfer Cymru, sy’n golygu bod angen i Weinidogion gael diddordebau eang mewn materion sy’n ymwneud â Chymru. Wrth arfer y swyddogaethau hyn, mae Swyddfa Cymru weithiau’n cyhoeddi adroddiadau a gwybodaeth arall ac mae hefyd yn delio’n rheolaidd ag amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt.

Lluniwyd Cynllun Iaith Gymraeg Swyddfa Cymru yn unol ag arweiniad Bwrdd yr Iaith Gymraeg a chafodd ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym Mis Mawrth 2010. Caiff ei adolygu unwaith eto o fewn pedair blynedd iddo ddod i rym.

Safon y Gwasanaeth

Mae Swyddfa Cymru yn cydymffurfio â’r egwyddor y bydd, wrth gyflawni ei fusnes cyhoeddus[1] yng Nghymru, yn trin yr iaith Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae’r cynllun hwn yn dangos sut y bydd Swyddfa Cymru yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddelio â’r cyhoedd yng Nghymru.

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth yr un mor uchel ei safon yn y Gymraeg fel ag yn Saesneg. Bydd yr holl dargedau perfformiad yn berthnasol i’r ddwy iaith. Anelwn at fod yn gyson yn safon ein gwasanaethau ni waeth p’un a ydynt yn cael eu darparu yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Pan fydd dogfennau’n cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog (h.y. y Gymraeg a’r Saesneg gyda’i gilydd) neu mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd y fersiwn Gymraeg o’r un ansawdd, ffurf, maint ac amlygrwydd â’r fersiwn Saesneg.

  1. Mae’r term “cyhoeddus” yn golygu unigolion, pobl gyfreithiol a chyrff corfforaethol. Mae’n cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, adran o’r cyhoedd, neu aelodau unigol o’r cyhoedd; yn ogystal â mudiadau gwirfoddol ac elusennau p’un ai a ydynt wedi cael eu hymgorffori ag atebolrwydd cyfyngedig ai peidio, oherwydd maent hwy hefyd yn rhan o’r cyhoedd. Nid yw’n cynnwys pobl mewn swydd sy’n cynrychioli’r Goron, y Llywodraeth neu’r Wladwriaeth.