Tudalen:Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Goblygiadau ar gyfer gwaith Polisi a Deddfwriaeth

Mae Swyddfa Cymru yn cyfrannu at lunio polisi a deddfwriaeth ar draws Whitehall a bydd yn gweithio’n agos ag Adrannau eraill y Llywodraeth i’w helpu i ystyried materion yn ymwneud â’r Iaith Gymraeg yn gynnar (yn cynnwys creu ffurflenni penodedig) yn unol â’u Cynlluniau Iaith Gymraeg eu hunain, ac i ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ymlaen llaw ynghylch cynigion a allai effeithio ar hyn, ar gynllun Swyddfa Cymru neu ar gynlluniau sefydliadau eraill.

Nid yw Swyddfa Cymru yn llunio ei bolisïau na’i gynlluniau polisi ei hun. Os bydd angen i ni wneud hynny yn y dyfodol, cânt eu hasesu o ran canlyniadau ieithyddol a byddant yn gyson â’r cynllun hwn. Byddwn hefyd yn chwilio am gyfleoedd a ddaw yn sgil unrhyw gynlluniau newydd o’r fath i hyrwyddo’r Gymraeg a hwyluso’r defnydd ohoni. Byddwn yn ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ymlaen llaw am unrhyw gynigion a allai effeithio ar y cynllun hwn.

O bryd i’w gilydd, mae Swyddfa Cymru yn cael ymholiadau gan Adrannau eraill y Llywodraeth am faterion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg, a bydd swyddogion yn parhau i gynorthwyo lle bo hynny’n bosibl a/neu’n cyfeirio’r Adrannau at Fwrdd yr Iaith Gymraeg am gyngor swyddogol.

Cyflawni’r Cynllun

Rydym yn ymrwymedig i weithredu o fewn amodau’r cynllun hwn. Mae Cyfarwyddwr Swyddfa Cymru yn atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol am lwyddiant y cynllun ac am fonitro’r modd y caiff ei weithredu. Mae pob rheolwr yn y Swyddfa yn gyfrifol am sicrhau bod ei dîm yn gweithredu yn unol â’r cynllun. Bydd staff yn cael cymorth ac arweiniad (a gaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd) ynghylch defnyddio’r Gymraeg yn Swyddfa Cymru a goblygiadau’r cynllun hwn.

Darparu Gwasanaethau i’r Cyhoedd yng Nghymru