Tudalen:Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fel rheol, pan fydd un neu fwy o atodiadau ynghlwm wrth lythyr dwyieithog, byddwn yn cynhyrchu’r atodiad hwn/atodiadau hyn yn ddwyieithog.

Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Caiff gwybodaeth a ryddheir dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ei rhyddhau yn yr iaith y mae ar gael ar y pryd.

Galwadau Ffôn

Rydym yn croesawu ymholiadau dros y ffôn naill ai’n Gymraeg neu’n Saesneg. Bydd galwadau i’n prif rifau ffôn yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain fel arfer yn cael eu hateb gan staff hollol ddwyieithog.

Pan gaiff galwad ei hateb ar linell uniongyrchol ac nid yw’r unigolyn wnaeth godi’r ffôn yn gallu siarad Cymraeg, bydd ef/hi yn egluro’r sefyllfa’n gwrtais ac yn gofyn i’r galwr a yw am gael ei drosglwyddo i barhau â’r drafodaeth gyda siaradwr Cymraeg cymwys priodol, bwrw ymlaen â’r alwad ffôn bresennol yn Saesneg neu ysgrifennu atom yn Gymraeg. Mae’n bosibl y bydd rhai adegau prin pan nad oes siaradwr Cymraeg ar gael a all ddelio â’r alwad yn llawn, yn enwedig os yw’r pwnc yn un cymhleth neu o natur arbenigol. Dan amgylchiadau o’r fath, caiff y galwr ddewis trafod y mater yn Saesneg, neu ysgrifennu atom yn Gymraeg – a thrwy hynny dderbyn ateb ysgrifenedig yn Gymraeg.

Cyfarfodydd Cyhoeddus, Ymchwiliadau a Gwrandawiadau

Er nad yw gwaith Swyddfa Cymru fel rheol yn mynnu ein bod yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus wrth gynnal ein busnes; petaem yn gwneud hynny yn y dyfodol, byddem yn cymryd camau i ganfod beth fydd y galw am gyfleusterau dwyieithog ymlaen llaw. At y diben hwn, byddwn hefyd yn ystyried yn fanwl leoliad y cyfarfod, pwnc y cyfarfod, a’n cynulleidfa bosibl. Os bydd angen, gyda’r wybodaeth hon mewn cof, byddwn yn cyhoeddi hysbysiad cyhoeddus ar gyfer y cyfarfod, a bydd hwnnw’n gwahodd unigolion i roi gwybod i ni (gyda chyfarwyddiadau clir ynghylch manylion cyswllt) pa iaith y byddant yn ei defnyddio.