Tudalen:Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn yr un modd, petaem yn paratoi dogfennau mewn cysylltiad ag ymchwiliadau cyhoeddus a gwrandawiadau eraill, byddem yn cyhoeddi’r rhain yn ddwyieithog. Ni fydd dogfennau technegol na chyfreithiol fel arfer ar gael yn ddwyieithog oni bai eu bod eisoes ar gael yn Gymraeg.

Cyfarfodydd Eraill â’r Cyhoedd

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb â ni a drefnwyd ymlaen llaw yn Gymraeg. Os na drefnwyd dim byd ymlaen llaw, byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddarparu aelod o staff sy’n siarad Cymraeg er mwyn cyfieithu, os oes rhywun ar gael. Mae’n bosibl y bydd adegau prin pan nad oes siaradwr Cymraeg cymwys priodol ar gael. Dan yr amgylchiadau hyn, byddwn yn cynnig cynnal y cyfarfod yn Saesneg neu ddelio â’r ymholiad drwy ohebiaeth yn Gymraeg. Os bydd y cyfarfod yn mynd rhagddo drwy gyfrwng y Saesneg, bydd unrhyw ddogfennau ysgrifenedig sy’n deillio o’r cyfarfod yn ddwyieithog.

Pobl sy’n Ymweld â Swyddfa Cymru

Mae gennym staff hollol ddwyieithog wrth y dderbynfa yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain. Mae’n bosibl y bydd rhai adegau prin pan nad yw’r un o’n siaradwyr Cymraeg ar gael yn syth. Dan amgylchiadau o’r fath, bydd yr ymwelydd yn cael cynnig trafod ei fusnes yn Saesneg; gadael nodyn ysgrifenedig yn Gymraeg; neu adael ei fanylion cyswllt fel y gall siaradwr Cymraeg gysylltu ag ef/hi yn nes ymlaen.

Cyhoeddiadau

Bydd ein holl gyhoeddiadau (argraffedig a electronig), a gyfeirir at y cyhoedd yng Nghymru, yn ddwyieithog, gan dueddu i ffafrio un ddogfen ddwyieithog. Weithiau, efallai y byddwn yn cyhoeddi yn Saesneg ddogfen dechnegol neu atodiad technegol i ddogfen sydd fel arall yn ddwyieithog, oni bai ei bod eisoes ar gael yn Gymraeg.

Bydd y polisi golygyddol a nodwyd yn y paragraff blaenorol yn cael ei adolygu’n flynyddol yng ngoleuni profiad. Pan fyddwn yn cyhoeddi