Tudalen:D Rhagfyr Jones.pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TYWYSYDD-Y-PLANT.

Rhif 9. MEDI, 1901. Cyf. XXXI.

PARCH. D. RHAGFYR JONES, TREORCI.[1]

 MAE Mr. Rhagfyr Jones yn frodor o Ddolgellau—tref fechan ond a ystyrir fel prif dref Sir Feirionydd—saif mewn dyffryn llydan ffrwythlawn o brydferthwch mawr, wrth odreu Cader Idris. Perthyna llawer o hynafiaethau i dref Dolgellau a'r gymdogaeth—ystyrid y lle hwn hyd yn ddiweddar fel un o'r rhai mwyaf Cymreig yn Ngwynedd, ac aml y dyfelid mai yma y byddai cartref olaf yr iaith Gymraeg, ond y mae y Rheilffordd a'r ysgolion yn newid yr argoelion yn gyflym. Ar Rhagfyr 17eg, 1858, yn Nolgellau y ganwyd gwrthrych ein ysgrif. Dygwyd ef i fyny gyda ei dadcu a'i famgu o ochr ei fam. Yr oedd yn blentyn bywiog ac o feddwl cyflym a threiddgar. Dysgodd ddarllen yn bum mlwydd oed, a dechreuodd enill gwobrau am adrodd a darllen pan tua saith oed. Cymerwyd ef i'r ysgol gyda ei fod yn dechreu cerdded. Yr Ysgol Fritanaidd yn gyntaf neu Ysgol Capel Mawr (M.C.) fel ei gelwid, yna Ysgol y Bwrdd. Prentisiwyd ef yn Pupil Teacher flwyddyn cyn amser oedran, a gwasanaethodd dymor o bum mlynedd fel y cyfryw dan Fwrdd Ysgol Dolgellau. Bu am beth amser yn cael gwersi prifat gan y Parch S. O. Morris, M.A. prif athraw yr Ysgol Ramadegol yn y lle, ac yn niwedd 1877 aeth i Lundain, a bu yn is-athraw yn Kentish Town, dan Fwrdd Ysgol Llundain. Dychwelodd oddiyno yn mhen blwyddyn, a bu wedyn yn Ohebydd yn Swyddfa y Dydd, Dolgellau. Yn ystod yr amser hwnw, yr oedd yn adnabyddus fel arweinydd côr lled lwyddianus, a rhagorai hefyd am ddarllen Cerddoriaeth yn Nodiant y Sol-fa ar yr olwg gyntaf.

Cafodd ei dderbyn yn aelod o Eglwys Dolgellau yn ddeuddeg oed gan y gweinidog athrylithgar y Parch E. Aeron Jones (Manordeilo yn awr). Yr oedd ei fab y Parch E. Griffith Jones, B.A., Balham, Llundain, yn cael ei dderbyn yr un pryd. Drwy ei fod wedi ei fagu yn awyrgylch pregethu a phregethwyr

teimlai awydd er yn fore iawn i fyned i bregethu ei hunan,

  1. Tywysydd y Plant, Cyf. XXXI rhif. 9 - Medi 1901. td 230—235; PARCH. D. RHAGFYR JONES, TREORCI.