Tudalen:D Rhagfyr Jones.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dechreuodd yn Nolgellau o dan weinidogaeth y Parch D. Griffiths (Bethel yn awr). Mr W. Jones, Maescaled—pen duwinydd yr Eglwys a'r dref, oedd y cyntaf i'w gymell i ymgymeryd a'r weinidogaeth. Cawsai y manteision goreu yn y byd i ddyfod yn gyhoeddus drwy gymeryd rhan yn yr addoliad teuluaidd ac yn nghyfarfodydd gweddiy bobl ieuainc. Pregethodd y tro cyntaf yn y gyfeillach oddiar Luc xxii, 28. Pregethodd yn y gyfeillach yr ail dro oddiar Matthew vi, 21. Canys lle y mae eich trysor yno y bydd eich calon hefyd, yna o flaen y gweinidog nos Sul oddiar yr un testyn a'r ail dro. Aeth yn fuan wedyn ar daith bregethu am bythefnos drwy ranau o Siroedd Meirion ac Arfon. Ceir hanes llawer o'r daith yn y Dysgedydd am Rhagfyr 1894. Aeth ar ol hyny am daith arall drwy ran o Sir Drefaldwyn. Yr oedd yn pregethu ar hyd yr amser y bu yn Llundain. Peth anarferol erbyn hyn yn Nghymru yw fod dyn ieuanc yn anfon pythefnos o gyhoeddiadau i'r Eglwysi, ac yn cael derbyniad caredig yn mhob man. Rhaid iddo yn awr ddanfon am ganiatad i bregethu mewn llawer o eglwysi cyn y caiff gyhoeddiad, a dichon mae ei wrthod a gaiff wedyn. Dyna un o'r cyfnewidiadau y mae yr Enwad wedi myned dano yn yr ugain mlynedd olaf o'r 19eg canrif. Ni bu Mr. Rhagfyr Jones mewn Ysgol Ragbaratoawl o gwbl ac nid aeth allan o'i ffordd i ddarparu ar gyfer Athrofa y Bala, eto safodd yr arholiad mor llwyddianus fel y daeth allan yn gyntaf o 15 yn y flwyddyn 1879. Ei athrawon am beth o'r amser oedd y Parchn. M. D. Jones, T. Lewis, B.A. ac Ap Vychan. Collodd gynorthwy y cyntaf a'r olaf ar ol yr ymraniad yn Gorphenaf y flwyddyn hono. Glynodd ef a Mri. Machreth Rees, Llundain, Hopkyn Rees, China, Tawelfryn Thomas, Groeswen, E. M. Edmunds, Llundain, Evans, Blackpool, Thomas, Penrhiwceibr, Jones, Hyde Park America, &c wrth y Coleg y gwnaed y Parch. T. Lewis, B.A. yn brif athraw iddo. Cafwyd helynt flin gyda y ddau Gyfansoddiad—yr Hen a'r Newydd, ac yr oedd yn dywydd mor arw ar fyfyrwyr y ddau Goleg wrth gasglu atynt yn yr Eglwysi, fel yr ystyrid y myfyriwr a dderbyniai alwad yn ffodus dros ben, ac anaml y gwnai un o honynt a gaffai gynyg galwad ei gwrthod. Cafodd Mr. Rhagfyr Jones alwad o

EBENEZER, CEFN-COED-CYMER,

Swydd Forganwg cyn pen dwy flynedd ac urddwyd ef yno Ebrill 12 ar 13, 1881. Y noson gyntaf dechreuodd Mr. R. Thomas, Coleg y Bala (Penrhiwceiber yn awr) a phregethodd Mri.