Tudalen:D Rhagfyr Jones.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Williams, Hirwain ac R. Rowlands, Aberaman. Am 10 dranoeth dechreuodd Mr. W. E. Evans, Tresimwn, pregethwyd ar Natur Eglwys gan J. Davies. Soar, Aberdar, holwyd y gofyniadau gan Mr. W. J. Richards, Penywern, Dowlais, offrymwyd yr Urddweddi gan Mr. W. Edwards, Aberdar a rhoddwyd cyngor, i'r gweinidog gan Mr. D. Griffith. Dolgellau, Am 2 dechreuwyd gan Mr. Tawelfryn Thomas, Groeswen, a phregethodd Mri. Machreth Rees a J. M. Bowen, Pendaren—yr olaf Siars i'r Eglwys. Am 6 dechreuodd Mr. O, W. Roberts, Coleg y Bala a phregethodd Mri. Evans, Troedrhiw (Penmaen yn awr) a D. Griffiths, Dolgellau. Yr oedd gan y gweinidog ieuanc ei gynlluniau ac aeth ati i'w gweithio allan o ddifrif ond buan yr arosodd gwaith y Gyfartha ar ba un y dilynai y lle yn benaf am ei gynaliaeth, ac ni bu nemawr o lewyrch ar fasnach yn y lle am flynyddau. Er yr anfantais fawr hon ychwanegwyd at nifer a gweithgarwch yr Eglwys, a llwyddwyd i dynu peth o'r ddyled oddiar y capel: Sefydlodd Mr. Rhagfyr Jones Gymdeithas Ddirwestol yn y lle yr hon a ddaeth yn allu mawr yno, ac y mae ei hol er daioni ar amryw gymeriadau hyd heddyw. Bu ganddo hefyd Ddosbarth Beiblaidd cryf yno a Seiat y Plant' na bu ei bath. Llafuriodd yn y lle yn ddiwyd, ac er gwaethaf yr anfanteision, gyda mesur helaeth o lwyddiant hyd Ebrill 1887 pryd y symudodd i gymeryd gofal yr Eglwysi yn

SILOAM, PONTARGOTHI, A HOREB, BRECHFA.

Nid oedd yr Eglwysi hyn wedi arfer bod dan yr un weinidogaeth o'r blaen. Yr oedd Siloam wedi bod heb weinidog oddiar farwolaeth y Bardd-gerddor-bregethwr ieuanc Mr. E. Ehedydd Thomas, Nantysaer, yn 1888. Drwy ymadawiad Mr. E. B. Lloyd i Bwlchnewydd daeth Horeb yn wag, ac funodd y ddwy Eglwys i roddi galwad i Mr. Rhagfyr Jones. Yr oedd cael gweinidogaeth yn nyffryn ffrwythlawn a phrydferth y Towi yn ad-dyniadol i un ddygasid i fyny mewn dyffryn bras coediog wrth odreu un o gribog fynyddau y Gogledd. Ymaflodd yn ei waith yma eto gydag egni, a chododd i sylw y wlad fel pregethwr poblogaidd yn Mhontargothi. Cychwynodd Gymanfa Ganu rhwng Siloam a Horeb, yr hon a fu yn foddion i ddiwygio y canu cynulleidfaol. Da fuasai i'r Eglwysi ymdrechu ei chadw yn y blaen. Llafuriai i ddiwyllio meddyliau y bobl ieuainc. Yn ei amser ef gwnaed Capel Horeb, Brechfa o'r newydd, ac y mae yn dy hardd a chyfleus.

Yr oedd Mr Rhagfyr Jones yn cynyddu mewn dylanwad a phoblogrwydd yma yn gyflym pan y derbyniodd alwad oddiwrth eglwys