Tudalen:D Rhagfyr Jones.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BETHANIA, TREORCI,

a symudodd yno yn Chwefror, 1896. Cafodd yn Nhreorci faes eangach i weithio. Mae capel Bethania yn un o'r rhai mwyaf yu Nghwm Rhondda—Cwm sydd yn enwog am ei addoldai mawrion. Mesura 72 troedfedd o hyd, wrth 50 troedfedd o led. Adeiladwyd y capel eang a hardd hwn yn 1876. Mae ynddo eglwys o tua saith cant o aelodau, a chynulleidfa fawr. Perthyna i Bethania dair Ysgol Sabbathol, ac y mae ar eu llyfrau yn nghyd dros fil o enwau. Darfu i Mr Rhagfyr Jones ar ei ddyfodiad i'r lle ymaflyd o ddifrif yn ei wahanol ddyledswyddau. Y mae y Nefoedd wedi arddel ei weinidogaeth yn amlwg drwy roddi seliau. lawer iddo bellach. Mae wedi derbyn 250 o'r newydd, ac wedi adferyd tua thri ugain o wrthgilwyr. Mae yr eglwys dan ei arweiniad wedi ei breintio yn uchel a threfniadau at waith a diwylliant meddyliol, megys dosbarthiadau i'r ieuenctyd a'r plant, Cymdeithas Ddadleuol, Cymdeithas y Samariaid ar linellau tebyg i'r Christian Endeavour, a Chynadledd Arolygwyr Ymweliadol yr Ysgol Sul. Hyderwn fod y gwahanol sefydliadau hyn yn cael cefnogaeth galonog yr ieuenctyd. O ddiffyg hyny y mae llawer sefydliad daionus wedi bod fel llin yn mygu dros amser, ac yna yn marw.

Yn anterth ei ddydd, ac yn nghanol llafur mawr rhwng pregethu a bugeilio, daliwyd Mr Rhagfyr Jones y gwanwyn diweddaf gan afiechyd trwm: Pan adferwyd ef i raddau, cynghorodd y meddyg ef i fyned am dro i weld y byd, ac aeth allan i

WLAD YR AIFFT.[1]

Dychwelodd wedi derbyn adfywiad i'w feddwl a'i ysbryd, ac adferiad nerth corfforol i raddau dymunol. Ddiwedd mis Mai,—a hyny yn fuan wedi ail ymaflyd yn ei waith, er siomedigaeth fawr iddo ei hun a'r eglwys, cafodd ail ymosodiad gan ei hen ddolur, ac ymosodiad enbyd o'r gwynegon (rheumatism) ddiwedd Mehefin: Drwg genym gael ar ddeall ei fod dan waharddiad i bregethu. Y mae yn ddealledig yn yr eglwys nad yw i ddechreu pregethu cyn diwedd Medi o leiaf. Hyderwn y caiff lwyr adferiad,ac yr estynir iddo eto lawer o flynyddau i weithio yn y winllan. Heb wybod tosder ei ail gystudd, yegrifenais ato yn holi ei helynt, ac yn ceisio ganddo adrodd rhai o'r pethau a welodd yn ngwlad hynod y Pyramidiau. Ysgrifenodd yn ol o ganol poen a gwendid mawr ar Gorphenhaf Lleg, fel y canlyn;—

"Gwelais Alexandria a'i phileri, a'r catacombs, a'i gerddi breninol, a'i maesdrefi, a'i Phompey's Pillar, a 'dwn I beth i gyd.

  1. Mae ei atgofion am y daith i'r Aifft ar gael ar y safle hwn: I'r Aifft ac yn Ol