Tudalen:D Rhagfyr Jones.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwelais Cairo a'i Sphinx a'i Phyramidiau, a'i Hamguddfeydd, a'i hafon Nilus (sydd yn rhyfeddach yma nac yn Alexandria), a'i hen Eglwysi Coptaidd, a'i mosque mawr Mahometanaidd, lle yr oedd 15,000 o ddynion yn darllen y Coran am ddeg o'r gloch bore dydd gwaith, Gwelais Heliopolis—hen ddinas On, lle cafodd Joseph ei wraig, a'r hen goeden lle gorphwysodd Joseph arall a'i wraig a'r Mab bychan wrth ffoi i'r Aifft, &c. Ni chaniata nerth i mi ychwanegu. Os caf wella efallai yr ysgriblaf dipyn o Hanes fy Nhaith i'r Aifft ac yn ol' ar ffurf symi er mwyn y plant, sef plant y TYWYSYDD."

Hyderaf y caiff Mr Jones nerth i gyflawni ei addewid. Bydd llu mawr darllenwyr y TYWYSYDD drwy y Gogledd a'r De yn dysgwyl am ei ysgrifau dyddorol.

Mae Mr Rhagfyr Jones yn gefnogwr gwresog i fudiadau cyhoeddus yr Enwad. Areithiodd yn nghyfarfod cyhoeddus yr Undeb yn Liverpool yn 1897 ar Y dyn ieuanc oddicartref." Tâl ei araeth yn dda am ei darllen yn Adroddiad yr Undeb am y flwyddyn hono. Y mae wedi gwasanaethu ei oes mewn amrywiol ffyrdd y tu allan i'r pwlpud. Bu yn aelod o Fwrdd Ysgol y Faenor pan ar y Cefn, Merthyr Tydfil, am dair blynedd, ac o Gynghor Plwyf Llanegwad, pan yn Pontargothi, am ddwy flynedd. Gwnaethom gyfeiriad eisoes ato fel Journalist. Y mae wedi cyfoethogi Llenyddiaeth â chryn nifer o ysgrifau, megys Croniclau Llanfairbryn-meurig[1] i'r Cenad Hedd Hanes hen gymeriadau anwyl yn Nolgellau, &c. Cyhoeddodd yn Cyfaill yr Aelwyd ddeuddeg ysgrif ar Fywyd Gwledig yn Nyffryn Tywi.' Nofel fer, Un o blant Betsi' i'r Cyfaill— Pedair Golygfa yn Mywyd Huw Rolant' i'r Dysgedydd Fy Nhaith Bregethu Gyntaf' i'r un cyhoeddiad—Chwedl y Llofft Fach' yn wyth penod i'r Diwygiwr Parch M. D. Jones fel Dirwestwr i'r Tyst Dirwestol, &c, Darnau o Farddoniaeth, Tonau Cynulleidfaol, Anthemau, &c. Derbyniodd amryw o'r ysgrifau uchod ganmoliaeth uchel ar eu hymddangosiad, a bu llawer o ddarllen arnynt.

Tachwedd 3ydd, 1881, ymunodd Mr. Rhagfyr Jones mewn priodas a Miss Minnie Dakin, merch hynaf y diweddar Mr. S. Dakin—un o heddychol ffyddloniaid Israel yn y Bala, ac adnabyddus i lu o fyfyrwyr. Y mae Mrs Jones yn wraig graff, a chymdeithasgar, a thrwy hyny yn meddu ar lu o gyfeillion: Mae iddynt un plentyn ar y ddaear ac amryw yn y Nefoedd, Enw eu merch yw Eunice Elsbeth—ganwyd hi Rhagfyr 14eg, 1887, ac y mae dan addysg yn Ngoleg Milton Mount.

Gyda'r hanes hwn rhoddwn ddarlun da o Mr. Rhagfyr Jones, yr un peth a'r un sydd ganddynt yn Bethania wedi ei helaethu, a'i hongian i fyny yn y Festri.

TABORFRYN.
  1. Llanfairbryn-meurig—Enw amgen am Ddolgellau