"What a beautiful old song! ebe Mrs. Selkirk. "It reminds me of some Highland melody that mother used to sing. And, of course, when one comes to think of it, we Highlanders, and you Welsh, are cousins in blood after all"
Dyna ddiwrnod mawr cyfarfyddiad cyntaf Daff a Mrs Jones, Dowlais, yn Frazer's Hope, British Columbia-un o'r diwrnodau hynny mewn bywyd na all dim beri eu hanghofio, na lleihau anwyldeb yr atgof amdanynt.
XXXI. VANCOUVER
PEDWAR diwrnod ar ôl ei ddyfod i lawr o'r Rockies, penderfynodd Daff ei bod yn bryd iddo feddwl am ei gynnal ei hun yn y wlad newydd, ac felly yn ystod ei forefwyd cyfeiriodd at y peth wrth Mrs. Selkirk.
"Yr ydych wedi bod yn garedig iawn wrthyf," eb ef, "ond rhaid i mi fynd bellach; clywaf fod galw mawr am weithwyr yn Vancouver. Os caniatewch imi ymweld â chi yn awr ac yn y man, bydd yn bleser o'r mwyaf gennyf ddyfod. Ond rhaid yw mynd ar hyn o bryd, fodd bynnag."
Gwelodd y gwragedd reswm y peth, a chan ei fod ef yn awgrymu am ymweliadau mynych, haws oedd ymado'r tro hwn. Ond pan soniwyd gyntaf wrth Mrs. Jones am ei fwriad i fynd i Vancouver ni fynnai hi er dim ei adael i fynd.
"'Dych chi ddim wedi hanner gwella eto, 'y machan annwl i!"
Ond pan ymgomiodd Daff ei hun â hi, a dangos. ei fod yn eithaf penderfynol yn ei fwriad, gwelodd hithau y peth yn ei oleu iawn, ond ni rwystrai hynny hi i'w siarsio i ddod i'w gweld cyn bo hir, a chael tipyn o'r hen iaith unwaith eto.
Cyn ei ymado, fodd bynnag, gwnaeth hi iddo gymryd pum punt ar fenthyg ganddi hi, i'w talu yn ôl y pryd y mynnai. Yr un modd gwnaeth Mrs. Selkirk iddo gymryd y "dillad newid" i gyd oddiwrthi hithau;