feistr, gan benderfynu mai i agor busnes ar ei law ei hun yn unig yr âi ef oddiwrth y gŵr a roddodd iddo'r siawns gyntaf yn Vancouver.
Fel hyn ymlithrodd yr amser heibio, flwyddyn neu ddwy, Daff yn fawr ei barch gan ei holl gydnabod, a busnes ei feistr yn llwyddo yn ei ddwylo.
Ond er ei holl brysurdeb nid angof ganddo y tair a'i hymgeleddodd yn Frazer's Hope. Ai i fyny atynt yn fynych, ac nid byth y deuai oddiyno heb yr ymdeimlad o serch dwfn tuag atynt. Cafodd drafferth o'r mwyaf i beri i Mrs. Jones dderbyn ei phumpunt yn ôl, ac i Mrs. Selkirk gymryd tâl am y dillad a roesai hithau iddo. Hoff gan y ddwy, serch hynny, ei ysbryd annibynnol wedi'r cwbl.
Ni bu sôn o'r un ochr na'r llall am yr hen ddillad, a oedd wedi eu cyweirio a'u gosod yng ngwaelod y bag. Pe gwypid y gwir, edrychai Daff ar y rheiny fel y masgot a fynnodd iddo lwc allan o anlwc. Cofiai ef yn dda am y Sul cyntaf y gwisgwyd hwy yn y Rhondda, pan gyfarchodd y Cantwr ef yn gellweirus fel yr Ocean Swell. Ynddynt hwy y croesodd ef Iwerydd, y gwaeddodd "Buddugoliaeth!" yn Chicago, ie, ac y penliniodd am ei fywyd ar bont y Sierras. Rhaid oedd eu cadw (er na wisgai mohonynt mwy) i'w atgofio am y dyddiau a'r treialon a fu.
Ond er na fynnai Daff gymryd oddiar law y gwragedd yn Frazer's Hope, o'r hyn gyfrifai ef yn gardod, eto yr oedd am iddynt deimlo ei barch mawr tuag atynt, a chwmni difyr dros ben oedd yr un a aethai ar ei wahoddiad ef i waered o'r pentref bychan i Vancouver i Ginio Gwyl Ddewi 1896. Yno yr oedd Mrs. Jones yn ei helfen, a Mrs. Selkirk a Jessie, er na ddeallent yr hanner a ddywedwyd, yn yr un ysbryd llawen hefyd.
Pan ddaeth pen blwydd Mrs. Selkirk, derbyniodd gyfrol hardd o'r Songs of Scotland,' gyda nôd Vancouver ar yr amlen fawr, a'r un modd cafodd Jessie gopi o "Blodwen " ar ei phenblwydd hithau. Yr oedd Mrs. Jones, ebe hi ei hunan, wedi anghofio bod y fath beth â phenblwydd yn bod, ond nid oedd