Tudalen:Daffr Owen.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn dyfod yn filiwnydd undydd. Druain ohonynt! Dyma'r rhai yn ddiweddarach a wnaeth y trail yn un hunllef erch, ac a gollodd lawer ohonynt eu harian, eu rheswm, a'u hoedl, cyn gweled ohonynt na Yukon na'r Klondyke o gwbl.

Er mai diwedd yr haf ydoedd hi, dygai pob dydd. hwynt yn nes at anadl y rhew, ac ymhob min hwyrnos ymledai tawch oernaws dros y llong, a yrrai'r teithwyr i chwilio am eu cabanau a'u gwelyau rywfaint yn gynt bob nos.

Ar eu myned i Gulfor Chatham dechreuodd yr Aurora daflu ei lenni hud uwch eu pennau gan rychwantu'r nefoedd â'i ysblander; ac oedodd Daff ac ychydig eraill ar y bwrdd am noson neu ddwy i syllu ar wyrth Goleuni'r Gogledd.

Ond erbyn hyn yr oedd dyhead y glanio wedi cydio yn y teithwyr, ac ni allai'r llong symud yn ddigon cyflym i'w boddio. Achwynid hyn, a beiid arall, gan ddynion a oedd heb y syniad lleiaf am forwriaeth. Y lan! Y lan!" oedd eu cri fel pe bai holl aur y Klondyke yn eu haros ar y traeth, a hwythau yn ei golli oherwydd arafwch y capten a'r dwylo. Siaradent yn ynfyd, a gweithredent yn ynfyd hefyd, nes yr oedd yn syndod y modd y gallodd y swyddogion ddal heb osod rhai ohonynt yn y cyffion er eu diogelwch eu hunain, pe na bai er dim arall.

Ymhen deuddydd ymhellach dacw draeth Dyea yn y golwg, a phen y fordaith wedi dod. Man anial, oer, digroeso oedd hwn, heb heol nac adeilad o unmath oddieithr rhestr neu ddwy o gabanau coed a wynebai ar brif-lwybr hynod o leidiog. Mae'n wir y galwai y cabanau hyn eu hunain yn hotels, restaurants, saloons, banks, etc., ond megis o gellwair oedd hynny, oblegid chwerthinllyd i'r pen oedd yr honiadau mawr. Ond yr oedd pawb yno yn rhy brysur i sylwi ar ysmaldodau o'r fath. Digon iddynt hwy mai hwn oedd yr agoriad i wlad yr aur, hwnt i'r mynydd a edrychai i lawr arnynt oddidraw. A golygfa ryfedd ydoedd hi. Y man, flwyddyn yn ôl, nad adseiniai i ddim ond i grawciad yr aderyn unig, oedd yn awr