Tudalen:Daffr Owen.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y cwm a arweiniai i'r Pass ei hun yr oedd y droedffordd nid yn unig yn arw, ond yn gul a llithrig hefyd. Mewn un man, rhaid oedd croesi cornant neilltuol, gam a cham, dros goeden syrthiedig a wasanaethai fel pont drosti.

Cymerai Daff seibiant mynych yn y rhannau anhawsaf o'r daith. Credai y talai hynny'n well nag aros i luddedu'n lân cyn gosod y baich i lawr. Yn y "codi " a'r "gosod i lawr yr oedd y fantais gan Ddaff ar y dynion gwynion eraill. Gollyngent hwy y llwyth i lawr heb un meddwl am y ffordd gynilaf o wneuthur hynny, a chodent ef i fyny drachefn gyda'r gwastraff mwyaf ar eu nerth. Ond yr oedd yr Indiaid wedi dysgu'r grefft yn rhywle fel ag y gorfuwyd i Ddaff ei dysgu gynt yn y La Dernière, ac ef mewn canlyniad oedd yr unig ddyn gwyn yn awr a allai gystadlu â hwynt. Cyflogid Daff gan ddau Americaniad ieuanc, a oedd yn iau nag ef ei hun. Tybiai ef mai dau fachgen of deuluoedd da oeddynt, dau fel pe wedi newydd adael y Brifysgol, ac yn mynd i'r Klondyke oddiar antur deg. O leiaf, nid oedd olion llafur ar eu dwylo, ac nid oedd prinder arian ar yr un ohonynt. Yr oeddynt ill dau o ysbryd uchel ac yn gryn sports, h.y., nid yn eu hiaith a'u honiadau yn gymaint ag yn eu hymagweddiad distaw tuag ato ef.

Yr oedd un ohonynt, Mr. St. Clair, wedi aros ar y traeth gyda'r pentwr nwyddau pan gymerth Daff y sach gyntaf i fyny i'r snowline, tra dilynwyd ef gan yr ail, sef Mr. Bradbury, i fyny at y man o dan frig yr eira, lle y pentyrrid yr holl sachau cyn cychwyn tramwy yr ail stage enbyd i gopa'r Pass. Rhwng y ddau ddyn ieuanc, un ar y traeth, a'r llall o dan gysgod y Chilcoot, y cerddai Daff drwy gydol y dydd, sef i fyny yn llwythog ac yn wag i lawr, hyd nes gyda'r hwyr yr oedd yr holl sachau ymborth a'r cydau offer yn ddiogel gyda'i gilydd ychydig o bellter oddiwrth fôn y grisiau ia.

Yn un o'r pynnau a gludwyd i fyny yn gynnar yn y dydd yr oedd pabell ddarpar o wneuthuriad neilltuol, ac erbyn dwyn o Ddaff y sach olaf at y crug o dan