Tudalen:Daffr Owen.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gysgod y Pass yr oedd Mr. Bradbury wedi llwyddo i godi honno ar ei pholyn, ac wedi cynneu tân coed mewn gradell fechan a oedd hefyd yn rhan o eiddo'r ddau ŵr ieuainc. Ac nid yn unig yr oedd yno dân, ond yr oedd ar hwnnw drachefn badell ffrio yn llawn golwythion o facwn. Sawrus a denol dros ben oedd yr ymborth hwn i Ddaff, ac wedi bwyta ohono ef hyd ddigon, gorweddodd yn gynnar i gysgu hun y blinderog, ac yn y wybodaeth y byddai trannoeth yn waeth fyth.

XXXV. CYMORTH I'R GWAN

TYBYGAI Daff nad oedd wedi cysgu ond rhyw ddwyawr neu dair pan glywai rywun yn symud o gylch y babell, ac wedi codi ohono i'w eistedd a throi fflap y babell i edrych allan, gwelodd ei bod hi eisoes yn dechreu dyddio, a bod Mr. Bradbury yn brysur wrth y radell a'i dân coed unwaith yn rhagor.

Cyn hir yr oedd y borefwyd yn barod, ac wedi cyfranogi ohono, tynnwyd y babell i lawr a dechreuwyd trefnu ar gyfer gwaith mawr y dydd. Yn unpeth, penderfynwyd bod cinio i'w darparu ar ben y Pass ganol dydd, a bod dwyawr o seibiant ar ôl hynny, a bod Daff yn yr amser hwnnw i ddyfod i lawr i wylio'r eiddo wrth droed y rhiw tra âi Mr. St. Clair i fyny i gael ei ginio yntau a dychwelyd i gymryd ei le yn y gwaelod drachefn.

Paratowyd hefyd raff i'w threfnu o dan ddwy ysgwydd Daff, ac wrth hon y gafaelai Mr. St. Clair i helpu Daff i fyny gyda'r llwythi hyd hanner ffordd, a'r un modd deuai Mr. Bradbury i waered i'w helpu dros lawer o'r hanner arall. O ddilyn y cynllun hwn rhoddwyd cymorth mawr i'r cludydd, ac ar yr un pryd cadwyd llygad ar yr eiddo yn y ddeufan. Serth a lithrig iawn oedd y llwybr serch hynny, a llawer gwaith y collasai Daff ei droed onibai am y rhaff a'i cynhaliai.