Tudalen:Daffr Owen.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eglurodd i'r gŵr ieuanc hwnnw yr anhap, a'r modd y gadawodd ef ei bwn o nwyddau ceisio achub bywyd. Ac wedi gosod y truan, gyda chymorth Mr. Bradbury, mor gysurus ag a allai, aeth yn ôl i gludo ei bwn ei hun i fyny i'r Pass at y pynnau a oedd yno yn barod. Gadawyd llwyth yr Indiad yn y man y syrthiodd.

Eglur fod yr hen wr wedi torri asen neu ddwy, ac o ddyngarwch teg penderfynwyd ei gadw yn eu pabell hwy y noson honno. Yn y cyfamser aeth Daff i lawr unwaith eto am lwyth arall ac i hysbysu Mr. St. Clair am y ddamwain, ac i ofyn iddo ymweld â chyflogydd yr Indiad, i ddywedyd wrth hwnnw am y modd y bu, fel y gallai ofalu am ei was ei hun. Ond yr oedd y cyflogydd—" Yank" mawr o Maryland—yn ddigon oer yn y peth, a phan welodd mai dyn ieuanc oedd Mr. St. Clair ceisiodd siarad dros ei ben.

"Beth yw dy feddwl di, youngster," ebe fe, "yn ymyrraeth â gweision dynion eraill? A oes gennyt ddim busnes dy hun i'w feindio? Ac nid yw'r hen ysgerbwd yn ddim ond Indiad wedi'r cwbl!"

"Dim ond Indiad!" Fflamiodd Mr. St. Clair ar hyn. "Dim ond bywyd dynol, 'rwyt ti'n feddwl, y dyhiryn! Efallai y carit ei saethu, fel ag y gwnest â'r ceffyl truan hwnnw ar y Fflats y ddoe. Edrych di yma! Os na wnei di dy ddyletswydd i ofalu am y pŵr ffelo hwn, fe ofalaf i, cyn naw bore yfory, nad ei di gam ymhellach na Llyn Bennett ar y siwrnai hon, beth bynnag ddaw. Cymer dy ddewis!"

Ar hyn trodd y gŵr ieuanc ar ei sawdl gan adael yr Yank mawr i dyngu a rhegu ar ei ôl. Ond yr oedd y siarad plaen wedi cyrraedd yr amcan. Bore trannoeth danfonwyd pedwar Indiad gan yr adyn i ddwyn eu cydwladwr allan o babell y bechgyn, a chredwyd fod y digwyddiad ar ben.

Ymhen amser hir wedi hynny deuthpwyd i wybod mai trosglwyddo'r dioddefydd i ddwylo'r Indiaid eraill yn unig a wnaeth yr Yank wedi'r cwbl. Ni chostiodd ei ofal ffyrling iddo ef, ac onibai i Ddaff