Tudalen:Daffr Owen.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

116 DAFF OWEN Yna pasiwyd Windy Arm, a gwnaed amser da ar y Fifty Mile River, lle yr oedd ugeiniau o gychod yn ymdaith mor eiddgar a hwythau am gyrraedd pen y daith.

Ond yr oeddynt bellach wrth y Canyon, lle y cyfyngai gwely'r afon rhwng dwy graig anferth. Tynnwyd llawer cwch i dir uwchlaw'r Canyon er mwyn ei gryfhau cyn mentro i ferw'r dwfr a ruthrai yn y lle cyfyng. Oherwydd yr oedi ar y llecyn hwn lluosogai'r bobl a oedd yn aros eu tro i gymryd y Canyon, ac fel ymhob- man arall ar y daith lle yr ymdyrrai dynion am ennyd, dechreuai'r hapchware yn y man. Gwelodd Daff, wrth y Canyon fwy nag un a oedd wedi ymladd yn ddewr â'r Chilcoot neu'r Skagway, ac a oedd wedi saernïo cwch wrth Lyn Bennett a'i rwyfo hyd y creigle hwn, yn colli'r cwbl yno am na allent ddywedyd "Na" wrth y mileiniaid erchyll oedd yn ysglyfio pawb a fedrent ei ddenu at eu bordydd.

XXXVIII. YMLADD A'R DYFROEDD

SYLWODD y tri chyfaill yn y man hwn ar ambell fedd gyda chroes fechan, yn ymyl y lan. Dywedid yn gyffredin mai gorweddfan y rhai a foddwyd yn y Canyon oeddynt, ond sibrydid hefyd am fwy nag un a gymerodd ei fywyd ei hun o golli ei arian, ei gwch, a'i ymborth ar hanner y ffordd i'r Klonkyke.

Nid lle oedd hwn i aros ynddo'n hir, yn sicr. Gwell peryglon y dyfroedd na pheryglon oddiwrth ellyllon y trail wedi'r cwbl. Felly ymlaen yr aethpwyd cyn gynted ag yr oedd modd. Gyda gofal llwyddwyd i lywio drwy'r Canyon yn ddiogel hyd nes y deuthpwyd at y Rapids. Yno yr oedd y cwch i lithro i waered fel pe ar toboggan o ddwfr. Cyn mynd ar yr ysglent ofnadwy hon cylymodd Daff a Jack bopeth ag a ellid wrth ei gilydd yn eu llestr bychan. Safai un o'r bechgyn â pholyn yn ei law ar y naill ochr, ac un arall yn yr unrhyw fodd ar y llall, fel ag i ddal, yn anad dim, flaen y bad i'r un cyfeiriad a rhediad y dwfr. Ar ei draed