y tu ôl iddynt, a chyda'i afael ar y llyw, yr oedd Syd. Ebe fe,-"Dyma'n ni'n mynd! Daliwch yn gadarn, fechgyn!"
Ar y gair, ymaith yr aethant yn gyflymach, gyflymach bob eiliad, hyd nes, ar waelod y llithrigfa ddychrynllyd, y teithient cyn gyflymed â thrên. Ond yr oedd swch y bad yn union yn y blaen, ac ar ben isaf yr ysglent rhuthrwyd hwy drwy ganol colofn o ddwfr a godai fel llen, allan i ddwfr tawel y tu hwnt iddi.
"Hwre!" gwaeddai'r capten. Dyma'r ffordd, fechgyn Popeth yn dda!"
Nid diogel oedd popeth, serch hynny. Taflwyd y cwbl a oedd yn y cwch allan o'i le, a rhwygodd un o'r sachau blawd nes gwynnu llodrau Jack fel eiddo melinydd. Ond beth oedd y mân anhapion hyn at ddiogelwch y cwbl, a'r calondid a roesai ar gyfer rhwystrau eraill a oedd eto yn eu haros?
Gwelsant feddau yn y man hwn hefyd, a daeth i'w meddwl ill tri y peth a allai eu tynged hwythau fod, pe troesai y cwch o ddamwain ei ochr at y dylif. Ymgroesodd Syd (canys Pabydd oedd ef) a llanwyd eu calonnau i gyd â diolch am y Llaw a'u diogelodd yn y dyfroedd mawr.
Buont yr un mor ffodus yn y Squaw Rapids yn is i lawr, ac erbyn hyn fe'u cyfrifent eu hunain yn fadwyr o brofiad. Ac yn wir, hunan-hyder oedd un o'r pethau gwerthfawrocaf iddynt y dyddiau hynny, oblegid eto yn eu haros yr oedd Rapids y "Ceffyl Gwyn," perigl mwyaf yr holl daith, yn ôl barn a phrofiad pob badwr a aeth i lawr hyd Yukon erioed.
Rhyw fath ar ddyfrgyfarfod oedd y man enbyd hwn, a phe gwyrai'r cwch ychydig i'r naill ochr neu i'r llall o linell y cyfarfod teflid ef gyda nerth mawr yn ôl i'r lan gan y rhediant ofnadwy, a gwae i'r llestr a ddigwyddai daro ar un o'r talpiau craig yng ngwely'r afon ar y tafliad yn ôl. Yr oedd man cyfarfod y ddeuddwr fel rhyw grib anferth o ewyn yn ymestyn i lawr am rai cannoedd o lathenni, nes arllwys o'r