Tudalen:Daffr Owen.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwenodd Jack a Daff ar hyn. Amhosibl oedd nacau i'r fath apêl, er gweled ohonynt yn is i lawr y creigiau gwgus a'u dryllient o golli ohonynt lwybr cefn y Mwng.

Gyda'r gofal mwyaf y cyfeiriwyd at y grib yr eilwaith. A lwyddent hwy i gyrchu'r lle iawn y tro hwn? Gyda'u calonnau yn eu gyddfau y nesasant i'r fan. Ha! dacw flaen y cwch yn codi am eiliad, ond yr eiliad nesaf dacw ef yn ôl yn wastad ar y llwybr drachefn, a ffwrdd â hwy yng ngafael y lli. Ac er eu bod yn cyflymu'n fwyfwy fel yn y Rapids eraill, daliodd Abraham Lincoln ar ganol y Mwng bob cam o'r ffordd, nes llamu ohono fel creadur byw i'r llyn mawr ar y gwaelod.

Yno cododd y tri fel o un fryd gan floeddio,- "Buddugoliaeth!" ac wedi nesu ohonynt i'r lan arosasant ennyd wrth y llannerch yn ymyl y dwfr gan ysgwyd dwylo â'i gilydd. Yr oedd The White Horse Rapids wedi cwrdd â'u trech, ac atseinid y goncwest gan yr holl greigiau a choedydd uwch y Llyn Tro.

Rhaid oedd aros ychydig yn hwy ar ôl y fath gamp a hon, ac wedi diogelu ohonynt y cwch wrth goeden gyfagos cerddwyd yn ôl a blaen gan siarad a chanmol eu ffawd.

Ymhen pellaf y llyn yr oedd ysgerbydau tri chwch o leiaf wedi eu darnio rywle ar y ffordd, ac wedi eu casglu i'r man hwn gan fympwy'r dyfroedd. Beth am y dynion a'u saernïodd ac a'u dug hwynt allan o Lyn Bennett gyda gobaith uchel? Daeth distawrwydd dwys dros y tri o weld yr arwyddion hyn o ddinistr cynlluniau eu cyd-deithwyr, a chyfeiriwyd yn ôl at eu llestr bychan hwy eu hunain, a oedd, trwy drugaredd Duw, wedi llwyddo i nofio pob ton hyd hynny.

Yr oedd y gwaethaf drosodd bellach. Rhwyfwyd a hwyliwyd gydag asbri mawr dros Lyn Lebarge ac afon y Thirty Mile allan i Yukon las, lle yr oedd yr ia eisoes yn dechreu gosod ei fysedd oer ar y glannau. Ond yr oedd canol yr afon yn lle rhydd, a thrwy hwnnw