Tudalen:Daffr Owen.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aeth Daff heibio am y tro cyntaf, ond i lenwi'r diffyg. yr oedd pob saloon yn ddiwyd i'w ryfeddu, a neuaddau'r hapchwarae yr un fath. Ymddengys fod pob un yn y lle yn adnabod pob un arall, ac i gyd ar delerau cyfarchy naill y llall.

Aeth Daff i mewn dros drothwy y "Moose Horn," ac ar ei ofyn am rywbeth i'w yfed, clywodd eto y gair atgas

"Checkahco." Cyfarchwyd ef gan ddyn a benyw gyda hyfdra nad oedd yn ei hoffi, a gwelodd hefyd yn yr amser byr y bu yno bethau a wnaeth iddo feddwl yn sobr am fywyd y dre.

Yfid gan y merched a'r wynebau lliwiedig cyn drymed a'r dynion, a mentrent hefyd wrth yr hapfyrddau gymaint â neb pwy bynnag. Ymhen uchaf yr ystafell hir yr oedd gramaffôn gwichlyd a rygnai un o'r alawon "diweddaraf," ac i'r miwsig masw dawnsid gan dri neu bedwar cwpl.

Sylwodd Daff hefyd mai'r mwynwr oedd ffefryn y lle, ac mai â llwch aur y talai ef am bopeth. Yn wir, yn y cyffredin estyn ei gwd a wnâi ef i'r gweinyddwr, i hwnnw ei hun gymryd y rhan y tybid ei bod yn ddyledus arno. Nid oedd llawer o groeso i neb yn y tŷ oni thalai ef yn fynych am wirod i rywun neu rywrai. Mewn gair blingid y mwynwr ar bob llaw, a thalai yn ddrud am ei boblogrwydd byr-barhaol.

Y noson honno, wedi dychwelyd ohono i'r caban ar y bryn, talwyd i Ddaff y fil ddoleri addawedig; a'r peth cyntaf a wnaeth ef fore trannoeth oedd eu gosod, ynghyd â'r arian a enillasai yn Dyea, yn y banc yn Dawson. Trefnwyd hefyd yr un noson fod dwylo'r Abraham Lincoln i fwrw eu coelbren gyda'i gilydd am y gaeaf, ac y rhennid yr holl enillion yn dair rhan ar y dydd y torrai ia yr Yukon y gwanwyn dilynol.

Yn ystod eu hwythnos gyntaf ym mhrif dref y gogledd, rhoddwyd i'r tri dyn ieuainc lawer cynnig gan lawer math o ddyn. Pe credid y bobl hyn yr oedd allweddau'r El Dorado i gyd wrth eu gwregys hwy, ond eu bod, bobl garedig, yn foddlon eu bargeinio i ffwrdd am y peth nesaf i ddim mewn arian parod.