Ond nid oedd y Checkahcoiaid mor feddal ag y gobeithid, ac o ganlyniad mynd ymaith yn waglaw a fu raid i'r dyngarwyr i gyd.
Ar yr un pryd nid oedd diben o fod yn ddi-waith drwy'r gaeaf. Mae'n wir fod y lleoedd goreu yn y cilfachau cyfagos oll wedi eu cymryd, ond nid oedd un rhwystr i edrych ymhellach. Gwelent fwynwyr â'u "ceir cŵn" yn ymadael bob dydd â Dawson, a daeth yn amlwg y byddai'n rhaid iddynt hwythau wneuthur yr un peth heb fod yn hir, os oeddynt i ddychwelyd i'w gwlad eu hun yr haf dilynol yn gyfoethocach nag ar eu dyfodiad.
Ond i ba le y troent? Yr oeddynt eisoes wedi bod fis cyfan ar y Klondyke, heb fod yr argoelion fymryn gwell nag oeddynt ar y dydd cyntaf. Pryderai Daff lawer am hyn, canys yn y wlad am ei haur yr oedd ac nid am ei hanturiaeth fel ei gyfeillion.
XL. MYND I'R ANIALWCH
ÂI Daff i lawr i brif swyddfa'r Llywodraeth bob dydd i weld a oedd gobaith o ryw gyfeiriad am le newydd. Ac ef un bore yn dychwelyd oddiyno, gwelai Indiad cloff ar yr heol yn ymlwybro tuag ato. Ar ei ddyfod eto'n nes gwelodd mai ei hen gyfaill Red Snake o'r Chilcoot ydoedd. Dangosodd hwnnw yn ei ddull ei hun ei lawenydd o weld y gŵr a dosturiodd wrtho yn ei ddydd blin, a daeth yn siaradus hyd yn oed, am unwaith yn ei oes.
Adroddodd wrth Ddaff ei hanes oddiar amser y ddamwain. Wedi i long ddiweddaf y tymor fwrw ei llwyth ar draeth Dyea a mynd i ffwrdd yn ôl llaw, ymddengys i newyn ddal y lle hwnnw hefyd. A chan nad oedd gobaith am fwyd o unman prysurodd y bobl oddiyno, naill dros y Chilcoot neu ar hyd y Skagway ar ôl y teithwyr cyntaf. Red Snake, oherwydd ei anaf, ydoedd yr olaf i ymadael, ac amser caled dros ben a fu ei ran ar y trail. Bu'n ymladd â dau flaidd wrth Rotting Horses, ac yr oedd ar newynu pan