Wedi uno â'i gilydd eto bedair milltir ymhellach na'r Forks, teithiwyd ymlaen am saith neu wyth yn rhagor cyn troi o'r sled i lawr i gilfach neilltuol mewn coedwig fechan. Yno yr oedd nant yn dechreu ei ffordd i lawr, ac o ddilyn honno deuthpwyd i'r lle y gwybu White Cloud am ei gyfoeth, sef y lle a adnebydd pawb heddiw wrth yr enw Wood Creek. Tynnwyd deunyddiau pabell oddiar y sled, a thra rhoddai Red Snake fwyd i'r cŵn gosododd White Cloud a Daff y babell i fyny o dan gysgod llwyn mawr.
Tynnwyd hefyd allan o'r sled ymborth i'r dynion eu hunain, ac wedi cyfranogi ohono, a gweld y cŵn bob un yn ei wely eira y tu allan i'r babell, gorweddodd Daff a'i gymdeithion newydd i gysgu.
Ond pell oedd cwsg o amrannau'r Cymro y noson honno. Chwyrnai'r ddau Indiad yn ei ymyl heb na chyfrifoldeb na phryder o un math yn eu blino, chwyrnai'r cŵn y tu allan ar ei gilydd, udai blaidd yn y pellter, ac ysgrechiai tylluan yn awr ac yn y man uwch ei ben. Rhwng y cwbl, noson o flinder ydoedd i'r bachgen pell o dre.
Wrth droi yn ôl a blaen er mwyn denu cwsg, daeth i'w feddwl am y rhai a fu'n dda wrtho ar hyd ei oes,— Shams y Gof, Dai'r Cantwr, y swyddog ar y trên, a dau deulu Frazer's Hope. A welai ef hwynt eto rywbryd? neu a oedd ei bennod i ddiweddu yn eira'r Klondyke?
Ar hyn cododd White Cloud, ac aeth allan drwy agoriad y babell at y cŵn y tu allan. Ar ei chwibaniad, neidiodd pob un ohonynt i fyny, fel nifer o gesig eira byw, ysgydwodd pob un ei flew, ac ar amrantiad yr oeddynt yn barod i'w borefwyd. Wedi hynny cyneuwyd tân, ac ymhen ychydig yr oedd arogl flapjacks yn y badell ffrio yn denu Daff a Red Snake i fod yn barod i'w cyfran hwythau. Wedi gosod y rhelyw o'r bwyd heibio a sicrhau'r cŵn, dug y tri dyn eu hoffer gwaith at yr haen ym môn y graig a addawai mor dda. Unig gynllun yr Indiaid oedd ei darnio cyn belled ag y cyrhaeddai y morthwylion pigfain.