Tudalen:Daffr Owen.pdf/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond eglurodd Daff mai gwell fyddai gwneuthur agoriad fel lefel i eigion y graig. Ac yma y daeth ei brofiad yn y Rhondda o fudd mawr iddo. Yr oedd digon o goed yn ymyl, ac â'r rhain bwriadai ef ddiogelu'r nengraig fel yr elent ymlaen. Gwelodd y ddau Indiad ei fedr yn trin offer, a rhoesant y flaenoriaeth iddo ymhopeth ynglŷn â'r turio. Mantais arall o gynllun y lefel oedd y gallent weithio drwy'r gaeaf er casglu tomen y gro mân yn barod erbyn y golchi yn y gwanwyn pan fai'r dyfroedd yn rhydd. Gweithiwyd fel hyn am wythnos gyfan cyn ei ddyfod i feddwl Daff nad oeddynt wedi sicrhau eu hawl i'r lle, ac nad oedd dim yn rhwystro dieithryn hollol i weithio wrth eu hochr. Gofidiodd ef beth am hyn, ac wedi egluro'r perigl i'w ddau gyfaill, gofynnodd i White Cloud ddyfod yn ôl gydag ef i Dawson i gywiro'r gwall.

Penderfynwyd peidio â chymryd dim o'r mwyn gyda hwy, ond gadael popeth fel yr oedd yng ngofal Red Snake hyd nes y dychwelent. Wedi mesur y rhan o'r haen yn y golwg, barnwyd fod yno ddigon i wneuthur pum claim. A chan mai dim ond tri oeddynt hwy eu hunain awgrymodd White Cloud i Ddaff gynnig y ddwy ran arall i'w gyfeillion yn y caban yn Dawson. Diolchodd Daff yn gynnes a chychwynnwyd y daith i'r dre.

Erbyn cyrraedd ohonynt yno ac esbonio i Syd a Jack gyflwr pethau yn Wood Creek, derbyniwyd y cynnig ar unwaith gan y ddau, ac wedi gofalu fod popeth bellach mewn trefn yn Swydda'r Mwynfeydd dychwelodd dau ŵr y sled gan ddwyn Jack yn ôl gyda hwynt, a gadael Syd wrtho ei hun i ofalu am y caban. Aeth y gwaith yn Wood Creek ymlaen yn rhagorach fyth o gael un gweithiwr yn ychwaneg, tyfai y domen bob dydd, ac edrychid gydag aidd am y dydd yn nechreu'r haf y dechreuid ei "golchi." Yr oedd y cewyll at y pwrpas eisoes yn barod, a chyn Nadolig yr oedd cwrs y nant hefyd wedi ei droi i roi mwy o hwylustod i'r gwaith pwysig pan ddechreuid ef. Yn nechreu'r