flwyddyn, White Cloud yn unig a âi yn ôl a blaen i ymofyn lluniaeth a chael newyddion oddiwrth Syd. Yn y cyfamser profai'r lefel yn ardderchog a thyfai'r domen rhag blaen yn gannoedd o dunelli, parod i'r olchfa.
XLI. GWYLIO'R CLAF
WEDI un o ymweliadau White Cloud â'r dref, estynnwyd llythyr i Ddaff oddiwrth Syd, a barodd syndod nid bychan iddo. Dyma a ddywedai :
Caban Lincoln,
Dawson,
24/1/98.
F' annwyl Ddaff,
Bydd yn dda gennych glywed fod cydwladwr i chwi yma gyda mi yn y Caban. Achubais ef rhag
cynddaredd adyn o Fecsicad mewn ysgarmes yn y Moose Horn. A chan na allaswn ddioddef ei weld yn marw ar yr heol fe'i dygais. yma.
Pŵr ffelo! yr oedd ymron ar ben y pryd hwnnw, ond erbyn hyn y mae rywfaint yn well.
Dewch i Ddawson gyda White Cloud y tro nesaf yr ymwêl ef â'r dre. Carwn i chwi weld y
Cymro clwyfus. Dim ond o'r braidd y mae ynddo ei hun eto, ac ychydig iawn yw ei siarad.
Efallai y gwnewch chwi les iddo, nyrs ganolig wyf i ar y goreu.
Yr eiddoch yn fy ffwdan,
SYD.
Pan ddangosodd Daff y llythyr i Jack, torrodd hwnnw allan i chwerthin ar y cyntaf, ac ebe fe,— "Dyna Syd i'r dim. Nid oedd un sgwffl na chynnwrf o un fath yn Yale gynt nad oedd ef â llaw ynddo o ryw fath." Yna gan droi yn ddifrifol, eb ef ymhellach, Ond 'rwy'n diolch i'r nefoedd am y Cymro hwn, serch hynny."
Ni wyddai Daff yr ateb iawn i'w roi i hyn, a dywedodd, "Esguswch fi, Jack, nid wyf yn gweld unrhyw fater diolch i'r nefoedd am anfadwaith yn y Moose Horn. Nid wyf yn eich deall."