Tudalen:Daffr Owen.pdf/137

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel, fel hyn mae pethau'n union, Daff. Wedi i chwi ymadael â Dawson i ddyfod yma sylwais fod Syd yr ymweld gormod â'r Horn. Gofidiais am hynny, eto gwyddwn mai ofer pregethu llawer i Syd am ei fynychu a'r Salwn. Ac heblaw hynny, gwyddwn amdano y gallai fod mor ystyfnig â mul ar ambell bwnc. Gofal am ei gydgreadur oedd y peth goreu posibl i'w gadw o'r lle. Dyna fy esboniad."

Deallodd Daff bethau yn well ar hyn, a phenderfynodd, wedi meddwl ychydig yn ychwaneg, oedi ei fyned i Ddawson am bythefnos arall, am y gwyddai na welai Syd yn ei ofal am y claf mo'r Moose Horn am hynny o amser o leiaf. Ac efallai mai dyna'r moddion i'w gadw oddiyno yn gyfangwbl.

Felly gweithiwyd yn galed yn y lefel am bythefnos yn rhagor gan obeithio dechreu "golchi'r mwyn cyn bo hir.

Ar brynhawn Gwener yr ail wythnos harneisiodd White Cloud ei gŵn wrth y sled, a pharatodd Daff a Jack i fyned gydag ef i'r dre. Golygai hynny adael Red Snake wrtho'i hun yng ngofal y lefel a'r domen, a thipyn yn anhapus gan y tri oedd gadael yr hen ŵr yno wrtho'i hun, ond wedi ei siarsio i beidio â gweithio dim hyd nes y dychwelent, ymadawsant.

Ar eu neshad at y caban yn Dawson, yr oedd yn dechreu tywyllu, a disgwyliai'r teithwyr weld goleu yn y gegin fel arfer. Ond nid oedd y lamp wedi ei chynneu er bod goleu tân yn y stôf. Syllwyd i mewn drwy y ffenestr, ac yng ngoleu gwan y tân gwelent Syd ar un glun wrth wely bychan yn dal i fyny'n dyner ben rhywun a oedd yn gorwedd arno. Curwyd yn dawel wrth y drws cyn mynd i mewn, cyfarthodd un o'r cŵn yr un foment, ac ar eu myned i'r ystafell yr oedd Syd ar ei draed yn paratoi i gynneu'r lamp. Yng ngoleuni honno cymerwyd golwg ar y claf ganddynt ill tri, a phan drodd Jack a Syd ychydig i'r naill ochr i sisial rhywbeth yn dawel, gostyngodd Daff i gadair o flaen y stôf, a chan ddal ei ben rhwng ei ddwylo fe guddiodd ei wyneb, oblegid y claf oedd Jim Jones, fab y pregethwr, y bruiser o Gwm Rhondda!