Tudalen:Daffr Owen.pdf/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yna eisteddodd eilwaith yn ei gadair a dechreuodd fwmian iddo ei hun gân ei fam,—

A welsoch chi hen ffon fy nain?
Mae'n union fel y saeth,
Mae'n hynach heddiw nag erioed,
Ond nid yw law er gwaeth
'Roedd hon mewn bri cyn bod un trên,
Yn cario nain drwy'i hoes,
Ei chario wnaeth i byrth y bedd,
Heb unrhyw gweryl croes

Pan orffennodd ef y pennill cyntaf, yr oedd Jim wedi anhrefnu'r dillad unwaith eto. Cododd Daff eilwaith i'w gosod yn eu lle, ac yna canodd yr ail bennill,—

Pan oeddwn gynt yn blentyn bach
Yn dysgu trocdio cam,
I dŷ fy nain y rhoddwn dro
Heb wybod i fy mam.
Ond gwyddwn hyn yn eithaf da,
Er maint fy ofn a'm braw,
Na chawswn gam gan undyn byw
Os byddai'r ffon gerllaw.

Cyn diweddu canu ohono hwn yr oedd wyneb Jim tuagato a'i lygaid yn annaturiol o agored. Credai Daff o hyd nad oedd y claf ynddo ei hun, ac aeth ymlaen i ganu'r trydydd pennill, a oedd mor darawiadol am fore oes Daff ei hun, ac eiddo Jim yr un fath.