Wedi mynd heibio'r Forks dechreuodd Syd ddangos i Ddaff y pethau a brynodd ef, ac yn eu plith yr oedd pedwar llawddryll newydd.
"Paham bedwar Colt, Syd, a chwithau yn gwybod ein bod yn bump yn y Gulch?"
"O, prynais un i mi fy hunan ers tro (hyn gan dynnu allan o'i logell ar ei lwynau lawddryll arall). Dyma hi, yr un y gwthiais ei ffroen yn erbyn gên y Mecsicad pan oedd yn llofruddio Jim. Y peth a'm blina yn awr yw na ollyngais yr ergyd ar y pryd. Ond mwy pryderus oeddwn y foment honno i achub bywyd y llanc o Gristion nag i yrru enaid du milain y Moose Horn i'r Purdan."
"Diolch o galon i chwi, Syd," ebe Daff, â'r deigryn yn cronni yn ei lygad. "Nid anghofiaf byth eich tynerwch o'm cyd-Gymro."
"Twt! twt!
Wyddwn i ddim ar y pryd mai Cymro ydoedd ef, nac ychwaith fod gennych fel cenedl asgwrn cefn o gwbl. Ond yr oedd e'n game, oedd yn wir. Y Duw Mawr! chwi ddylsech ei weld yn sefyll i fyny yn erbyn y Dago! Ond mewn ysgarmes o'r fath, ychydig o siawns sydd gan ddwrn y Cymro yn erbyn cyllell y Mecsicad unrhyw bryd. Da fydd gennych glywed, fodd bynnag, i Brydeiniwr arall, byrrach o'i ben na'r Mecsicad herio hwnnw i'w hymladd hi i'r pen â dyrnau gan osod y cyllill a'r Colts heibio. Ac os cafodd Mecsicad erioed lond ei grombil am unwaith, oddiar law y llanc glew hwnnw y'i cafodd—Frank Slavin ydyw enw'r Prydeiniwr ieuanc, ac y mae yn Nawson eto. Ond mae lle'r Mecsicad yn wag am ei fod wedi hwylio adre am repairs. Mae peth plwc ynoch chwi Brydeiniaid yn weddill o hyd. Ysgydwch law, Daff, ar ran yr hen wlad, a phob game cock o'i mewn. Ond dyma ni yn Wood Creek—ac heb fleiddiaid y tro hwn hefyd."
Doethineb yn Syd oedd prynu'r llawddrylliau, oblegid amhosibl fyddai cadw'r gyfrinach yn hir, ac yn Nawson y pryd hwnnw yr oedd rhai dynion nad ymatalient rhag unrhyw beth a'i gosodai ar lwybr yr haen gyfoethog yn Wood Creek. Sylwasai rhai