Tudalen:Daffr Owen.pdf/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwnt iddo gyfrif am rai cannoedd ohonynt yn ddiau, a chysgai cannoedd eraill dan y cwrlid eira yn nhir oer y Klondyke. O'r rhai byw yr oedd torf wedi eu llyncu gan bleserau gwag y ddinas ysgafn, yn methu cadw allan o leoedd yr hapchwarae. I'r rhai hyn yr oedd y byd wedi ei gyfyngu ei hun i ddau lwybr, un o'r gilfach i'r salŵn a'r llall o'r salŵn yn ôl i'r gilfach. Ar y bwrdd yn cyd-deithio â Daff yr oedd rhyw hanner dwsin o wyr a aeth i'r Klondyke yr un pryd ag yntau, ac a oedd yn dychwelyd o'r wlad honno heb wybod dim am gur y mwynfeydd, ac eto'n gyfoethog y tu hwnt i un mwynwr a ddug y cyfoeth i oleu dydd. Adnabu hwynt ar y Baltimore, gwelodd hwynt yn dechreu eu gwaith cythreulig yn llaid Dyea, ac yn dal ati wrth y Canyon ynghanol y beddau a oedd yno. Hwy hefyd oedd wrth y byrddau yn y "Moose Horn," ac wele hwynt eto yn parhau wrth yr un grefft ar y Louisiana.

Pleser mawr iddynt fyddai gallu hudo Daff am unwaith i ymuno â'u "little parties," oblegid gwyddent o'r goreu mai un o ffodusion y "Gulches" ydoedd ef, ac o ganlyniad yn ŵr gwerth ei flingo.

Ond bob tro y ceisiwyd ei rwydo yr oedd rhywbeth yn ei drem yn arwyddo perigl i'r "crook," ac felly ni wasgwyd llawer arno wedi'r troion cyntaf.

Vancouver in sight! Dyna'r waedd ar y bwrdd ar y chweched bore wedi gadael Yukon; a pharatodd pawb ar gyfer y glanio.

Vancouver! Dyna'r lle y teimlodd Daff ei "draed dano" gyntaf, a'r lle y gobeithiai dreulio ei fywyd rhag blaen. Deubeth yn neilltuol y dymunai ac y breuddwydiai ef amdanynt ynglŷn â'r dre a'r ardal. A ddeuai ei freuddwydion i ben, tybed?

Wedi'r glanio a chael lluniaeth, aeth ar ei union at fasnachwr yn y lle, ac ar ôl y cyfarchiadau arferol, ebe fe wrth y gŵr," Flwyddyn yn ôl chwi gynigiasoch imi y siop hon am bum mil o ddoleri, Mr. Van Heurt, a ydyw yr un cynnig yn sefyll heddiw?"

Ai prynu drosoch eich hun, neu dros rywun arall yr ydych, Mr. Owen?"