Tudalen:Daffr Owen.pdf/148

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Chwerthin mawr am hyn ganddynt oll, a Daff yn edrych i fyny at Miss Selkirk gydag atgof o deimlad dwfn am y diwrnod pell hwnnw. Wedi hynny ymborth, ac ar ôl hynny canu, a chanu drachefn. "Gwelaf eich bod yn canu 'Blodwen' o hyd," ebe Daff wrth Miss Selkirk, pan wrthynt eu hunain am ennyd. "Beth amdano? A yw yn dal yn ei flas? "O, 'rwy'n caru pob miwsig Cymreig," ebe hithau. Ac ar hyn hi ganodd ar yr offeryn, braidd yn ddi- feddwl, frawddeg allan o'r ddeuawd adnabyddus yng ngwaith Dr. Parry, ac ar orffen ohoni hi hynny tarawodd Daff i mewn â'r gofyniad yn y gerdd,

A gymeri di nghalon?

ac atebodd hithau ar y piano, ond heb ei chanu, y frawddeg gerddorol,

Cymera'n ddioed.

sef yr un a etyb Blodwen.

Chwarddodd Daff ar hyn, a gwridodd hithau am na wyddai ar y foment achos ei ddifyrrwch. Yna, wedi esbonio iddi, dywedodd ymhellach,—

"Mi genais fy nghwestiwn i a chanasoch eich ateb chwithau ar y piano. Mi a'ch daliaf at eich gair, f' anwylyd."

Wedi hynny bu tawelwch mawr, o leiaf hyd nes i Mrs. Jones ddyfod o rywle a gofyn, "Ble 'rych chi i gyd yma ?"