Tudalen:Daffr Owen.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Rhowch lwc dda' imi, Mrs Jones," eb yntau. Y mae Miss Selkirk—Jessie—newydd addo bod yn gymhares bywyd i mi"

Ar hyn neidiodd yr hen wraig fel geneth ddeunaw oed, ac wedi galw ar Mrs. Selkirk i'r ystafell, cusanodd hwynt oll drosodd a throsodd.

Dyma fi," ebe hi, mor hapus ag y galla i fod byth yn yr hen fyd yma!"

Ymhen chwe wythnos ar ôl hyn bu priodas hynod o boblogaidd yn Frazer's Hope, ac nid yw y merched a'r gwragedd etc wedi darfod siarad am y dillad gwychion a wisgai Mrs. Jones, Dowlais House, ar yr amgylchiad hapus.

Gan na allai'r pâr ieuanc ddechreu eu byd ar unwaith yn Vancouver, penderfynwyd, fel y croniclai'r papur lleol, ymweld ag Iwrop."

"Iwrop" y ddau, fodd bynnag, oedd Deheudir Cymru pan aed i Aberhonddu a Chwmdŵr, ac y dangosodd Daff i'w wraig leoedd hynotaf yr ardal. Rhaid oedd mynd i Gwm Rhondda hefyd i dreulio noson yng nghwmni D. Y. ac i ysgwyd llaw â John Jones, alias "Shoni Cwmparc",Haulier and Baritone. Ar wahoddiad Daff aethant yn bedwar bywiog anghyffredin i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yr wythnos ar ôl hynny.

Ac ar Ddydd y Cadeirio, pan alwyd "Y Cymry oedd ar wasgar" i fyny i'r llwyfan, nid oedd neb yn cynrychioli Canada yn fwy llawn eu calon na Daff, a'r eneth a gyfarfu ag ef ar yr heol wrth Frazer's Hope.


Y DIWEDD.