Tudalen:Daffr Owen.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II. GAMALIEL Y PENTRE

YN wahanol i lawer hen filwr a geisiodd o bryd i'w gilydd addysgu plant Cymru yn yr amser gynt, pell oedd Sergeant Foster o fod yn annysgedig ei hun. Ei lawysgrifen ardderchog, pan yn cynnig am y swydd o ysgolfeistr, a dynnodd sylw ato gyntaf. Yna, pan holai'r offeiriad ef, digwyddodd i'r gŵr da hwnnw daro ar fan cryfaf yr ymgeisydd, sef ei wybodaeth fanwl o Shakespeare. Ac am ben hynny daeth ei lais rhagorol i'r maes i ymladd o'i ochr, gyda'r canlyniad iddo fynd dros ben pob rhwystr ac ennill y swydd.

Yn nes ymlaen daeth rhai o'i wendidau i'r golwg. Yn un peth rhodresai ei Shakespeare, a braidd byth y siaradai heb lusgo'r bardd mawr hwnnw i'r ysgwrs, ac yr oedd y gymdogaeth wedi hen flino ar ei "When shall we three meet again?" a'i Stands Scotland where she did?" a'r cyffelyb. Ei "Ie" (yn enwedig ar ôl yfed glasiad neu ddau) oedd "My word is my bond," a'i "Nage" terfynol yn wastad "No, not for Venice!"

Dyn yr offeiriad a'r "mawrion tir" ydoedd o'r dechreu, a chredai y rhai hynny, ac ambell ffermwr yn ogystal, mai digon o Saesneg o unrhyw fath oedd oreu i blant y plwyf. Ac felly tyfodd cenhedlaeth yng Nghwmdŵr na wybu nemor ddim am fawrion llên eu gwlad, nac am eu gweithiau.

Gwendid arall y Sergeant oedd ei fynych lymeitian. Gan mai ef oedd ysgrifennydd clwb y Farmers, naturiol oedd cyrchu yno—ar fusnes, wrth gwrs. Ond yr oedd yn syndod i'w ryfeddu weld y fath waith caled a oedd bod yn ysgrifennydd clwb, neu o leiaf fod yn ysgrifennydd clwb y Farmers.

Yno hefyd y cyfarfyddai ef â dynion mwyaf cyfrifol y plwyf—ar fusnes eto—a chan fod y rheini ambell waith yn dra llon eu hysbryd, a bod "llais canu " da ganddo yntau, wel, beth mwy naturiol na gofyn am gân gan yr un a'i medrai oreu.