Yn y modd hwn adseiniodd hen dderi parlwr y Farmers lawer ar "Tom Bowling," "Hearts of Oak, a'r "Gallant Arethusa." A pheth mwy naturiol wedyn na rhoi glasiad i'r eglwyswr a ganai cystal? Ie'n wir, beth hefyd ?
Ei hoff ateb ar gynnig o'r fath oedd "To be, or not to be, that is the question," ac yn ddios y "To be" a enillai bob tro. Nid oes sôn yn hanes y plwyf i gyd i'r "Not to be" gael y trechaf erioed.
Ac wedi dechreu cael blas arni deuai "Once more into the breach, dear friends," yn hawdd i'w dafod dro ar ôl tro.
Pe cyfyngai ei Shakespeare i droion felly, neu ynteu egluro'r meddwl yn well i'r plant oedd dan ei ofal, ni wnâi'r brawddegau ynddynt eu hunain ddrwg yn y byd. Ond i'r gwrthwyneb eu lluchio a wnâi ar bob achlysur, yn yr ysgol a thu allan iddi, a hynny heb fod dim neilltuol yn galw amdanynt, ond yn unig ei foddio ei hun, a llanw'r cymeriad a roddodd y ficer iddo ar ei ddyfodiad i Gwmdŵr o "fine Shakesperian scholar."
Dywedid yn gyffredinol ei fod yn well Cymro nag y tybid ei fod, ac iddo, rywbryd, ganmol Brutus yn gyhoeddus "fel llenor addfed". Taerai eraill eu bod wedi ei weled yn darllen "Wil, Brydydd y Coed", ac i bob golwg yn cael mwynhad mawr ynddo. Ond faint bynnag oedd mesur ei lwyddiant i ddarllen a deall y llyfr hynod hwnnw, ni chododd ei Gymraeg ymarferol yn uwch na brawddegau fel "Ma fa glân,' Ma fa pert," a "Ma chi tost?" Ac am y plant, druain, rhaid oedd iddynt hwy, o'i ran ef, fod yn hollol ddall y tuallan i'r "Spelling Book,"y Four Rules," y Catechism," Tonau o ansawdd "The British Grenadiers," a'r "Roast Beef of Old England," ac, wrth gwrs, dognau mân, anodd eu treulio, o'i hoff fardd Shakespeare.
Dyma'r gŵr a arhosodd yn ei dŷ ddwyawr ar noson "dal y brithyll mawr" gan ddisgwyl am Ddaff Owen i ddod yn ôl ei orchymyn. A chan na ddaeth hwnnw yn ddiymdroi, a bod mater neilltuol yn galw am ei