bresenoldeb yntau yn y Farmers am saith, torrodd ar ei arfer o beidio â mynd i dŷ neb pwy bynnag o'r plwyfolion, oddieithr ryw ychydig, ac aeth i fwthyn Sioned Owen i chwilio am ei mab.
Y gwir oedd bod cyllid yr ysgol wedi dechreu dangos gwendid yn ddiweddar, ac allan o ymgom rhwng y ficer a'r ysgolfeistr trefnwyd bod "cyngerdd ysgol" i'w gynnal ar fyrder at y diben daionus o leihau'r ddyled.
Bu amgylchiadau o'r fath y flwyddyn flaenorol, a chyngerdd hynod o lwyddiannus a barodd esmwythhau'r baich yr amser hwnnw. Dyna'r pryd yr adroddwyd. "Huber! and Arthur" gyda chymeradwyaeth mawr, ac eleni yr oedd Brutus and Cassius" i gymryd y llwyfan gyda bwriad tebig.
Arfaethai y mei siarad am y peth yn yr ysgol. y prynhawn hwnnw, ond diangodd o'i gof yn llwyr. Felly heb golli amser yn rhagor, (gan y cymerai y dysgu a'r caboli gryn drafferth), a bod noson y gyngerdd. wedi ei phenodi eisoes, aeth i dŷ Sioned Owen ar ei neges arbennig.
"Good evening, Mrs. Owen! Where is Daff?"
"Yiss! Yiss! Come in, Mr. Foster!" ebe honno yn ei chyffro o gael y fath ymwelydd parchus wrth ei drws. Gwenodd y gŵr mawr, a cheisiodd ymddarostwng i safle'r wraig wylaidd a safai o'i flaen.
"Ma' fel hyn, Mrs. Owen. David chi, David Owen. Brutus David Owen also. Fi moyn David chi bod Brutus concert nesa' a son treasurer ysgol bod Cassius. Chi gweld? Ma' hynny, chi gweld, pert, Mrs. Owen."
Nid oedd Sioned yn gweld y peth o gwbl heb sôn am "weld pert," ac felly arhosodd hi yn fud gan ddisgwyl esboniad pellach. Ond ni ddaeth hwnnw, a throdd y meistr ymaith gan ddywedyd, "Fi gweld David 'fory. Good night, Mrs. Owen!"
Eisteddodd Sioned wrth ochr ei thân gan geisio dyfalu beth oedd ym meddwl Sergeant Foster, a mwy am na ddeuthai ei mab adref o'r ysgol mewn pryd y prynhawn hafaidd hwnnw.