Tudalen:Daffr Owen.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ai fe 'sgrifennodd y Bachgen Main,' mam?

"Diar mi! Nage, am wn i, pam 'rwyt ti'n gofyn?"

"Na'r 'Ferch o Blwyf Penderyn'?"

"Nage! Mae honno'n hen iawn, w'ost di."

"Na 'Ffarwel i Langyfelach'?"

"Nage! rhyw sowldiwr wnaeth honno, medden nhw."

"Nag Anfon Lythyr, Deio Bach'?"

Nage'n siwr ! Ond aros di funud i mi gael chwilio am y gân ei hun. Dyma hi—Gan John Jones, Llangollen,—a chân iawn yw hi hefyd. 'Rwy'n crio bob tro y darllena i hi. Clyw fel y mae'n dweud !

Megais fachgen hoff ac annwyl
Ar fy mron mewn trafferth mawr,
Deio, ti yw'r bachgen hwnnw
Nas gwn ymhle yr wyt yn awr.
Maith yw'r amser er y'th welais,
Machgen annwyl, wyt ti'n iach, ?
Os nad elli ddyfod trosodd,
Anfon lythyr, Deio Bach!

Caled yw fy nhamaid bara,
Ie, caled iawn a phrin,
Tra mae 'mhlentyn, mi obeithiaf,
Gyda'i fara gwenith gwyn,
Pan f'och di, fy annwyl blentyn.
Wrth dy ford heb nych na nam,
Os nad yw yn ormod gofyn,
Cofia damaid gwael dy fam.'


Wn i yn y byd a fydd fy Neio Bach i yn anghofio 'i fam fel y llanc diofal hwn?"

"Na! ddim byth, mam! Wedi i fi ddechre gweitho rhaid i chi ddod i gadw tŷ i fi—tŷ gwell na hwn—ac yna fe fyddwn gyda'n gilydd am byth bythoedd."

Daeth tawelwch rhyngddynt am ennyd, yna trodd y fam at ei bachgen a'i gusanu yn annwyl.

"Ond pam rwyt ti'n gofyn cymaint am Brutus heno, machgen i?

"Fel hyn, mam—os oedd nhad yn adnabod Brutus yn dda, fe ddylwn innau wybod rhywbeth amdano hefyd. 'Dwy' i ddim am ddangos i mishtir 'fory