Tudalen:Daffr Owen.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

V. FFEST Y "FARMERS"

NID llawer diwrnod o dwrw a rhialtwch llawn a gaffai plant Cwmdŵr ar hyd blwyddyn gyfan. Ond yr oedd un, sef diwrnod ffêst y Farmers," pan ddeuai bron pob ffermwr a gweithiwr yn yr ardal at ei gilydd i'r gwesty i ddathlu pen blwydd y gymdeithas ddyngarol a gartrefai yno. Llawer amaethwr, a fuasai gynt. yn byw yn yr ardal, ond yn awr a drigai mewn plwyf neu sir arall, a ddeuai ar ymweliad â'r hen le ar y diwrnod arbennig hwn. A'r un modd llawer gweithiwr, brodor o'r pentref gwledig, ond a oedd erbyn hyn yn ennill ei fywioliaeth yng nglofeydd y Deheudir, a ddeuai hefyd i weld ei berthynasau ar adeg hapus y wledd. Felly rhwng popeth yr oedd diwrnod "ffêst y Farmers" yn ddydd o lawenydd i bobl hynaf Cwmdŵr yn ogystal ag i'r plant. Ond ni hidiai y rhai ieuainc gymaint am wedd ddyngarol y clwb, llyncid eu holl sylw hwy gan y pethau mwy gweladwy—y faner, y regalia, yr orymdaith, y gwisgoedd, ac yn enwedig yr afr wen o Aberhonddu, a flaenorai'r cwbl.

Dechreuid plethu cangau o wahanol goedydd uwch drws a ffenestri'r gwesty ddiwrnodau cyn y dydd mawr, ac erbyn dyfod o'r Sadwrn yr oedd pileri ac ystlysau'r cyntedd wedi eu cuddio â blodau o bob lliw. A chyn canol dydd treiddiai arogl hyfryd y bastai drwy holl rannau agosaf y pentref, fel rhwng y cwbl safai'r pentrefwyr fel pe ar flaenau eu traed yn disgwyl yr amgylchiad mawr oedd unwaith eto wrth y drws.

Felly y bu ar bob Sadwrn cyn y Sulgwyn oddiar cyn cof y neb a oedd yn fyw, ac felly y tybid y byddai hefyd ar yr un Sadwrn yn 1889.

Ond erbyn hyn yr oedd Sergeant Foster, yr ysgolfeistr, wrth yr awenau, ac awgrymid o bryd i'w gilydd, gan fwy nag un aelod, y gwelai Gwmdŵr ychwaneg y tro hwn—rhywbeth mwy teilwng o'r ardal a'r gymdeithas nag a fu erioed cyn hynny. Yr oeddid eisoes