Tudalen:Daffr Owen.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi penderfynu—gyda mwyafrif bychan, mae'n wir— i'r orymdaith fynd i'r eglwys i wrando pregeth fer gan y ficer cyn dychwelyd mewn rhwysg at y danteithion. Sonnid am bethau eraill hefyd, ond nid oedd cymaint sicrwydd am y rheini, er bod y Sergeant yn brysur anarferol, ac yn galw yn y Farmers ddengwaith yn y dydd.

Dyma'r prynhawn wedi dod o'r diwedd. Yr oedd y tywydd yn braf a'r ymwelwyr o bell yn dechreu ymdyrru i'r lle, ac yn galw mewn ambell ddrws i ofyn hynt hen gyfeillion bore oes.

Am ddau o'r gloch gelwid y Roll, a rhaid oedd i bob aelod dalu ei ôl-ddyled erbyn y pryd hwnnw. Wedi dibennu galw'r enwau dechreuwyd yr arwisgo, a llawer ffermwr mewn brethyn gwlad a fu ymron methu'i adnabod ei hun o dan liwiau disglair yr arwisgoedd newydd.

Ond o'r holl rai rhwysgus i gyd, y pennaf oedd yr ysgrifennydd, h.y., ein hen gyfaill y Sergeant. Nid yn unig yr oedd ei sgarff yn fwy lliwus, ond yr oedd hefyd fwy o sêr arni, a thu ôl iddi yr oedd pedwar medal yn hongian wrth rubannau o wahanol liwiau ar ei fron i hawlio iddo y lle amlycaf.

Cyn bod yr arwisgo ar ben, clybuwyd sŵn cras a thabyrddu egniol o gyfeiriad Trecastell. "Brass Band! byth na chyffro i!" ebe Shams y Gof. "Dyma hi o'r diwedd!"

Nid oedd clyw Shams wedi ei dwyllo, oblegid seindorf bres yn wir oedd yno yn agoshau i'r pentref, a'r seiniau yn dod yn fwy eglur bob cam y deuai. Gwenai y Sergeant gyda boddhad i'w ryfeddu, oblegid golygai y sŵn fod y Milwriad yn Aberhonddu wedi mynd allan o'i ffordd i barchu ei hen Sergeant trwy dorri ei reol i beidio gadael seindorf y gatrawd fynychu gwleddoedd o'r fath. Nid oedd yr ysgolfeistr yn sicr cyn hyn y deuai y seindorf o gwbl, felly bu yn ddigon doeth i fod yn dawel ar y pwnc. Ond bellach, yr oedd pob amheuaeth ar ben, ac ambell un o'r ffrindiau mwyaf ei sêl yn curo cefn yr ysgolfeistr, a'r holl westy yn un berw drwyddo.