Yn y pentref yr oedd pawb naill ai y tuallan ar garreg y drws neu ynteu y tu ôl i lenni'r ffenestr yn syllu ar yr afr a'i chyrn goreuredig, a'i chyfrwy amryliw, ac ar y sawdwyr cerddgar yn ei throedio hi i'r ysgwâr o flaen y Farmers.
Cyn pen canu dwsin o nodau yr oedd pob crwt a oedd o fewn hanner milltir i'r lle, naill ai eisoes yn yr ymyl neu yn ei rhedeg hi rhag colli'r sbri. Yn eu plith yr oedd Daff, Wil mab y Gwehydd, Glyn, Twm Ddwl (lloeryn y pentref), a rhyw ddeugain eraill yn troedio gam a cham â'r cerddorion newydd hyn a oedd yn deffro holl adseiniau'r cwm â'u miwsig byddarol.
Wedi ei marchio hi yn y blaen am ryw gymaint, trowyd i lawr o'r brif heol i'r ysgwâr, ac wedi ffurfio ohonynt gylch o flaen y tŷ, a chanu ychydig yn rhagor, diweddwyd yn sydyn ar chwibaniad mishtir y band!
Ar hyn daeth y Sergeant a dau arall allan o'r tŷ yn dwyn bob un ei lestr yn llawn o gwrw. Wedi hynny dygwyd allan nifer o wydrau gan ferch y tŷ, ac â'r rhain estynnwyd i'r cerddorion dieithr foddion i dorri eu syched.
A hwy wrth y gwaith hwn, mawr oedd yr edmygu ar yr offer, a'r cerddorion eu hunain, gan blant y pentref, rhai wedi eu swyno gan y dillad "coch a melyn,' eraill gan y trombone (sef yr offeryn a estynnai yn ôl a blaen ac a oedd un foment yn ddwylath o hyd, a phryd arall lai na hanner hynny), ond y rhan fwyaf, ac yn eu plith Twm Ddwl, Daff, a Glyn, gan y ddrwm fawr a oedd mor bwysig i'r holl fiwsig.