Tudalen:Daffr Owen.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VI. "TWM DDWL"

OND dacw'r orymdaith yn cychwyn. Yr afr ymlaen y llu a milwr yn ei harwain; wedi hynny y seindorf yn llanw r heol gyda'i drum-major â'i ffon ryfeddol un cam o'u blaen, a gŵr y ddrwm fawr gam o'u hôl. Yna y ficer, a'r 'sgweier, yr amaethwyr, y gof a'r saer gwlad, a gweithwyr eraill yn cerdded yn ddeuoedd ac yn cael eu rhagod yn ofalus gan y Sergeant, a'i ffon hirfain, swyddogol-a'r cynhulliad oll yn bwysig a rhwysgus i'w ryfeddu.

Ni welwyd erioed orymdaith o'r fath yng Nghwmdŵr, a chan fod gwŷr a chariadon y rhan fwyaf o'r rhyw deg yn ei ffurfio, poblogaidd ydoedd gan bawb.

Ond nid gan neb yn fwy felly na'r plant. Cydgerddent â hi bob cam o'r ffordd, a phan drodd gwŷr y seindorf at yr eglwys wedi dibennu ohonynt y canu a thynnu eu hofferynnau i lawr i'w hochrau er myned i mewn i'r adeilad, braidd na byddai i'r plant eu dilyn yno hefyd. Ond wrth y drws safai'r Sergeant, ac nid oedd yr un cleddyf tanllyd a'u hataliai'n well na phresenoldeb y gŵr hwn. Ond gan fod ei angen ef yn y gangell ar fyrder ynglŷn â chanu'r gwasanaeth, fe amneidiodd ar Ddaff a Glyn i fynd ato, ac wedi eu dyfod fe'u gollyngodd i mewn i'r cyntedd. Eu gorchwyl hwy yno oedd gwarchod yr offerynnau, a oedd wedi eu gosod i bwyso yn erbyn y wâl, hyd nes y delai'r milwyr allan drachefn.

Mor falch oedd y ddau grwt o'r ymddiriedaeth! Ni chaffai wybedyn ddisgyn ar y pres na'r ddrwm pe gallent hwy ei rwystro.

Ymhen tipyn gwthiodd Twm Ddwl ei ben i mewn trwy'r drws, ac o weld mai y ddau hogyn yn unig a oedd yno, gwthiodd ei gorff i mewn hefyd, a chan ymlwybro'n gynnil, croesodd y cyntedd tuag at y ddrwm gyda'r bwriad o'i thabyrddu yno, heb ystyried am y gwasanaeth, na'r ficer, na'r ysgwlyn nac arall. Ac onibai i'r ddau lanc ymdaflu yn ei erbyn â'u holl egni